Person wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr A55 yn Sir Conwy
Mae person wedi marw mewn gwrthdrawiad un cerbyd ar ffordd yr A55 yn Sir Conwy ddydd Sadwrn.
Cafodd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad yn Nwygyfylchi i gyfeiriad y dwyrain am 05:49.
Bu farw gyrrwr cerbyd Hyundai gwyn yn y fan a'r lle.
Mae ei deulu a'r crwner wedi cael eu hysbysu am y farwolaeth ac mae ymchwiliad yr heddlu'n parhau.
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio ar unrhyw lygaid-dystion i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod A172376.
Mae'r A55 i gyfeiriad y dwyrain wedi bod ar gau am nifer o oriau gyda theithwyr yn cael eu cyfeirio i ddefnyddio ffyrdd yr A5 a'r A470.
Inline Tweet: https://twitter.com/TraffigCymruG/status/1718162451500277874