Dyn dan amheuaeth o ladd 18 o bobol ym Maine wedi'i ddarganfod yn farw
Mae dyn oedd dan amheuaeth o saethu 18 o bobol yn farw yn nhalaith Maine yn yr UDA wedi’i ddarganfod yn farw ar ôl tridiau o chwilio amdano.
Cafwyd hyd i Robert Card, 40, yn farw yn nhref Lisbon meddai Comisiynydd Diogelwch Cyhoeddus Maine, Michael Sauschuck.
Dywedodd y Comisiynydd fod y corff wedi ei ddarganfod am tua 23:00 nos Wener ger afon yn Lisbon Falls.
Cafodd 13 o bobol hefyd eu hanafu yn yr ymosodiad.
Mewn datganiad, dywedodd yr Arlywydd Biden ei fod wedi bod yn “ddau ddiwrnod trasig - nid yn unig i Lewiston, Maine, ond i’n gwlad gyfan”.
"Unwaith eto, mae cymuned Americanaidd a theuluoedd Americanaidd wedi cael eu difetha gan drais gwn," meddai.
Yn ôl yr heddlu, digwyddodd yr ymosodiadau am tua 19:00 nos Fercher mewn bar a chanolfan fowlio oedd wedi eu lleoli tua pedair milltir i ffwrdd o'i gilydd.