Annwn: Gruff Rhys yn goleuo gwagle Edward y Cyntaf
Fe heidiodd pobl i Gastell Caernarfon nos Wener i fwynhau noson gyntaf sioe laser a sain "arallfydol" oedd yn cynnwys perfformiad gan yr artist Gruff Rhys.
Mae 'Annwn' yn sioe laser a sain sy’n cael ei pherfformio am dair noson (Hydref 27-29) o fewn muriau'r castell hanesyddol.
Mae cyfraniadau sain wedi’u creu’n arbennig ar gyfer Annwn gan Gruff Rhys yn seiliedig ar ei gasgliad blaenorol, ei archif a’i arbrofi diweddaraf.
I gyfeiliant sain, cafodd y gynulleidfa eu trochi mewn perfformiad golau a laser wedi ei greu gan Chris Levine.
Mae’r profiad sain a golau wedi ei ysbrydoli gan weledigaeth Annwn.
Ar dir Cadw y cynhelir y perfformiadau. Dywedodd Dr Ffion Reynolds, Rheolwr Treftadaeth a Chelfyddydau Cadw: “Rydym yn gyffrous iawn i ddod ag Annwn i gynulleidfaoedd yng Nghastell Caernarfon yr wythnos hon.
"Mae cael yr hen a’r newydd ochr yn ochr yn gwneud rhywbeth arbennig iawn i safleoedd treftadaeth. Mae’n codi’r cwestiwn: hanes pwy yw e beth bynnag? Mae creu isfyd Cymreig y tu mewn i gastell Edward 1af yn ffordd i ni newid y ffordd o adrodd straeon mewn llefydd sy’n cael eu dehongli mewn ffyrdd gwahanol.
"A fyddai Edward y 1af yn cymeradwyo? Da ni’n gobeithio ddim!”
Pedair awr o sioe
Bydd profiad y gynulleidfa bob nos yn para tua pedair awr ac fe fydd modd symud o gwmpas y castell yn ystod y sioe.
Dywedodd Chris Levine, yr artist laser y tu ôl i’r cyfan: “Mae Annwn yn ymwneud â'r cymysgedd o sain 3d gyda lasers, wedi'i daflunio ar waliau hanesyddol Castell Caernarfon.
"Yn awyr y nos, bydd y goleuadau laser yn syfrdanol ac os bydd yn niwlog, yn gymylog, neu'n bwrw glaw, bydd hyd yn oed yn fwy trawiadol. Gobeithiwn weld pob elfen o dywydd gogledd Cymru dros y penwythnos ac mi fydd hi’n wahanol iawn bob nos. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw gwisgo'r dillad cywir a mwynhau."
Lluniau: Siôn Pugh