Carcharu naw aelod o grŵp troseddol ar ôl herwgipio dyn o Gaerdydd
Carcharu naw aelod o grŵp troseddol ar ôl herwgipio dyn o Gaerdydd
Mae naw dyn wedi cael eu carcharu ar ôl herwgipio dyn o Gaerdydd.
Mae’r achos wedi’i ddisgrifio gan yr heddlu fel un o ymchwiliadau herwgipio mwyaf cymhleth y DU yn ddiweddar.
Am 16.30 ddydd Gwener, 11 Rhagfyr 2020, cafodd dyn 22 oed o Stryd Clifton, Sblot, ei gymryd a’i gludo i gyfeiriad ar Heol Pendwyallt, yn yr Eglwys Newydd.
Nid oedd yn ymwybodol fod cynllun herwgipio eisoes ar y gweill gan grŵp troseddol i gribddeilio arian oddi wrtho ef a’i ffrindiau.
Fel rhan o’r cynllun, fe wnaeth y grŵp fygwth y dyn gyda gwn a chyllell nes y byddai'n taliad pridwerth (ransom) o £50k er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddychwelyd yn ddiogel.
Am 19.57 y diwrnod hwnnw fe wnaeth Heddlu De Cymru dderbyn galwad 999 cyn i’r tîm Ymchwilio Troseddau Mawr yr heddlu gychwyn ar eu hymchwiliad.
Yna cafodd y dyn, a oedd yn hysbys i aelod o’r gang o Lundain, ei gludo i leoliad arall yn Hemel Hempstead, ble gafodd ei guro a’i gadw mewn gefynnau, dan fygythiad cyllell a chi ymosod.
O ganlyniad i’r ymchwiliad ar y cyd rhwng sawl llu a’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol, cafodd y dyn ei achub yn ddiogel o’r cyfeiriad yn Hemel Hempstead am 23.30 ar nos Sadwrn 12 Rhagfyr.
'100%'
Yn ystod y gwrandawiad llys, dywedodd y dioddefwr: “Fe achubodd yr heddlu fy mywyd. Dydw i ddim yn credu y byddwn i wedi byw oni bai bod yr heddlu wedi dod y diwrnod hwnnw.
"Rwy'n 100% yn siŵr o hynny. Wn i ddim beth oedd y rheswm pam roedden nhw eisiau i mi farw, ond rydw i yn 100% yn siŵr na fyddwn i'n fyw."
Bron i dair blynedd yn ddiweddarach ac yn dilyn tri achos, mae naw o ddynion wedi’u cael yn euog.
Fe gawson nhw eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener i gyfanswm o 116 o flynyddoedd yn y carchar.
Mae chwech o’r naw dyn wedi cael dedfrydau estynedig o gyfanswm o 22 mlynedd am y perygl maen nhw’n ei achosi i’r cyhoedd.
Yn euog o herwgipio, carcharu ar gam, a blacmel roedd:
• Fortune Lawson, 27, o Ealing, Llundain. Dedfryd 25 mlynedd yn y carchar ynghyd â 5 mlynedd o ddedfryd estynedig. (Cafodd Lawson hefyd ei ddedfrydu am ei ran mewn ail achos herwgipio a blacmel yn Llundain yn 2018).
• Davood Assadopour, 32, o Harrow, Llundain. Dedfryd 15 mlynedd yn y carchar ynghyd â phedair blynedd o ddedfryd estynedig.
• Micaiah Marley, 30, o Watford. Dedfryd 15 mlynedd yn y carchar ynghyd â phedair blynedd o ddedfryd estynedig.
• Arnold Fumumeya, 27, o Harrow, Llundain. Dedfryd 13 mlynedd yn y carchar ynghyd â thair blynedd o ddedfryd estynedig.
• Alexis Mutesa, 27, o Brent, Llundain. Dedfryd 13 mlynedd yn y carchar ynghyd â thair blynedd o ddedfryd estynedig.
• Gideon Lawson, 24, o Lundain Dedfrydu 12 mlynedd yn y carchar ynghyd â thair blynedd o ddedfryd estynedig.
• Ahmed Omar, 29, o Mitcham, Surrey. Dedfryd naw mlynedd yn y carchar.
Hefyd:
• Denis Delishaj, 24, o Harrow, Llundain, yn euog o flacmel. Dedfryd o wyth mlynedd yn y carchar, ynghyd ag wyth mis am feddu ar ffôn anghyfreithlon tra yn y carchar yn aros am achos llys.
• Stephen Isaac, 66, o Hemel Hempstead, yn euog o herwgipio a charcharu ar gam. Dedfryd chwe blynedd.
'Neges glir'
Yn ystod yr ymchwiliad, fe wnaeth yr heddlu gymryd meddiant o chwe chyllell, pum rownd fyw o fwledi, gwn llaw, bom mwg grenâd, a thaser wedi'i guddio fel ffôn symudol.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Darren George, pennaeth Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru: “Mae herwgipio a’r defnydd troseddol o ddrylliau yn ne Cymru yn hynod o brin a phan fyddant yn digwydd, fel y mae’r grŵp troseddol hwn wedi darganfod, rydym yn benderfynol o fynd ar ôl y rhai sy'n cymryd rhan.
“Mae hwn wedi bod yn un o ymchwiliadau herwgipio mwyaf cymhleth y DU yn ddiweddar ac mae wedi cymryd bron i dair blynedd i gael y naw unigolyn hyn yn euog.
“Rydym yn gobeithio y bydd ein hymrwymiad i’r drosedd hon a’r dedfrydau a roddir yn anfon neges glir i’r rhai sy’n bwriadu dod â’r math hwn o drais i’n strydoedd.
“Byddwn yn eich erlid yn ddiflino gyda phopeth sydd ar gael inni a byddwch yn mynd i'r carchar.”
Lluniau: Heddlu De Cymru