'Mae'n stopio chi fyw': Galw am well gofal i ddioddefwyr cyflwr croen TSW
'Mae'n stopio chi fyw': Galw am well gofal i ddioddefwyr cyflwr croen TSW
Rhybudd: Mae'r erthygl canlynol yn cynnwys trafodaeth am hunanladdiad.
“O’n i methu cerdded, o’n i’n bed-bound, methu ‘neud lot o gwbl ac o’n i’n ddechrau cael suicidal thoughts.”
Dyma eiriau Siôn Eurig o Gaerdydd sydd wedi byw â chyflwr croen TSW (‘Topical Steroid Withdrawal’) ers nifer o flynyddoedd.
Datblygodd Mr Eurig, sy'n 31 oed, y cyflwr “debilitating” ar ôl degawdau o ddefnyddio cyffur steroid i drin ei ecsema.
Ond mae byw gyda TSW yn “100% yn waeth” nag ecsema, meddai, ac mae hynny wedi cael effaith mawr ar ei iechyd meddwl.
“Mae’n gyflwr sy’n cymryd drosodd bywyd ti a mae’n stopio chi fyw, yn enwedig yn normal,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.
“Mae’n anodd mynd allan, anodd cerdded, anodd i cadw lawr swydd, yn enwedig gyda’r insomnia ‘dych chi ddim yn cysgu.
“O’n i methu cysgu am ddiwrnodau a mae hyn yn rili cael effaith ar iselder.
“'Odd ‘da fi iselder yn eitha’ wael a wedyn byse fi’n cael suicidal thoughts yn dod trwy,” meddai.
‘Debilitating’
Roedd Siôn Eurig wedi dioddef ag ecsema ers yn blentyn ifanc, ac roedd yn defnyddio cyffur steroidau ar gyngor meddygon am dros 30 mlynedd er mwyn ei drin.
Ond mae Mr Eurig bellach yn dweud bod “diffyg dealltwriaeth” yn y gwasanaeth iechyd ynglŷn â chyflwr TSW, a bod hynny wedi cyfrannu at ei ddioddefaint diweddar.
“Gyda TSW does ‘na ddim triniaeth a pan es i i’r NHS ‘odd nhw byth ‘di gweld unrhyw un gyda’r cyflwr o’r blaen," meddai.
“’Nes i aros am flwyddyn am apwyntiad a wedyn am yr hanner awr o’n i yna, o’n i jyst yn esbonio i nhw beth ‘odd TSW.
“O’ nhw’n galw TSW yn ecsema fel bod nhw ddim rili eisiau cydnabod y problem yn iawn, sy’n rili anodd achos dwi ‘di cael ecsema am gyd o fywyd fi a mae TSW 100% gwaith yn waeth na ecsema – mae’n lot mwy serious a lot mwy debilitating.”
Cafodd TSW ei gydnabod yn swyddogol fel cyflwr croen ar wahân i ecsema yn 2021.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: “Mae steroidau argroenol (‘topical steroids’) wedi cael eu defnyddio i drin cyflyrau dermatoleg am nifer o flynyddoedd, fodd bynnag yn 2021 cyhoeddodd yr MHRA rybudd newydd ynglŷn â defnydd o gorticosteroidau argroenol (‘topical corticosteroids’) ac mae'r ymchwil yn parhau.
“Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro mae ein clinigwyr yn gweithio gyda chleifion i gytuno ar gynllun triniaeth briodol. Mae unrhyw gleifion sydd eisiau ystyried triniaethau eraill yn cael eu hannog i drafod â’u darparwr gofal iechyd.”
‘Codi ymwybyddiaeth’
Mae Siôn Eurig bellach yn benderfynol o godi ymwybyddiaeth am y cyflwr croen, ac mae’n bwriadu gwneud taith gerdded ledled arfordir Cymru er mwyn codi arian i’r elusen ITSAN, sy’n cefnogi pobl â chyflwr TSW yn rhyngwladol.
Mae'n gobeithio cychwyn ar y daith ym Mai 2024, wedi iddo orfod gohirio’r ymgyrch eleni ar ôl i’w gyflwr waethygu.
“Achos does ‘na ddim cymorth allan ‘na chi yn teimlo fel bod chi ar ben eich hun," meddai.
“Gyda rhywbeth fel TSW, chi ddim yn gwybod pryd mae’n gorffen – mae’n gyflwr rili unig achos mae’n anodd i bobl deall sut chi’n teimlo.”
Mae Mr Eurig yn teithio ardal Valencia yn Sbaen ar hyn o bryd, gyda chynlluniau i ymweld â Mecsico yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gan fod cyfnodau braf yn yr haul yn lleddfu ei symptomau, meddai.
Mae’n galw am well gydnabyddiaeth o TSW yng Nghymru, a hynny er lles iechyd corfforol a meddyliol pobl sy’n eu dioddef gyda’r cyflwr.
Mewn ymateb i’w brofiadau, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae steroidau ar gyfer y croen yn bwysig wrth drin rhai cyflyrau dermatoleg.
"Mae canllawiau i aelodau'r cyhoedd ar gael gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, ac mae canllawiau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar gael gan Gymdeithas Dermatoleg Prydain.
"Mae adwaith sylweddol ar ôl rhoi’r gorau i steroidau o’r fath yn weddol anarferol, ond dylai unrhyw un sy'n poeni am sgil-effeithiau, ac am ddatblygu cymhlethdodau tymor hirach yn sgil eu triniaeth, drafod hyn gyda'u meddyg."