Newyddion S4C

Gwaharddiad ar ddeunydd plastig untro yn dod i rym yng Nghymru

plastig

Mae deddf newydd sydd yn gwahardd amrywiaeth o blastigau untro, megis cyllyll a ffyrc, platiau, gwellt, ffyn balŵn a chynwysyddion bwyd polystyren, yn dod i rym yng Nghymru ddydd Llun.

Bydd Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) yn ei wneud yn drosedd i gyflenwi neu gynnig plastig untro i ddefnyddwyr.

Mae hyn yn dilyn ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i "ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn".

Pwrpas y ddeddf newydd yw lleihau’r llif o lygredd plastig sy’n llifo i’r amgylchedd trwy wahardd rhai cynhyrchion plastig untro rhag cael eu cyflenwi. 

Fis Rhagfyr diwethaf, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu ar waharddiad o’r fath, a gafodd Gydsyniad Brenhinol yn ôl yn yr haf.

Bydd gan awdurdodau lleol ledled Cymru y pŵer i orfodi’r gwaharddiad ar amrywiaeth o blastigau untro.

Mae’r mesur hefyd yn rhoi’r pŵer i weinidogion Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Aelodau’r Senedd, ychwanegu neu dynnu cynnyrch oddi ar y rhestr waharddedig.

'Dyfodol gwyrddach'

O ddydd Llun ymlaen mae'r eitemau canlynol bellach wedi'u gwahardd rhag cael eu gwerthu ledled y wlad:

  • Platiau plastig untro
  • Cwpanau plastig untro
  • Troellwyr diodydd plastig untro  
  • Cwpanau wedi'u gwneud o bolystyren allwthiedig ymestynedig neu ewynnog
  • Cynwysyddion bwyd tecawê wedi'u gwneud o bolystyren allwthiedig ymestynedig neu ewynnog
  • Ffyn balŵn plastig untro
  • Ffyn cotwm coesyn plastig untro
  • Gwellt yfed plastig untro 

Dywedodd Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James, fod y gwaharddiad yn “foment falch i Gymru”.

“Os byddwn ni i gyd yn cymryd agwedd Tîm Cymru ac yn ceisio ailddefnyddio, ailgylchu ac atgyweirio mwy, bydd yn helpu i greu dyfodol gwyrddach i genedlaethau i ddod.

“Mae plastigion untro yn cael eu taflu heb feddwl, gan achosi niwed i fywyd gwyllt a’n hamgylchedd.

“Mae’r gwaharddiadau hyn yn adeiladu ar weithredoedd cymunedau ledled Cymru sy’n lleihau eu dibyniaeth ar blastig untro diangen.”

Ychwanegodd y gweinidog ei bod yn gofyn i fusnesau baratoi ar gyfer newid wrth i'r ddeddf dod i rym.

“Rydym yn gofyn i fusnesau a sefydliadau baratoi eu hunain ar gyfer y newid trwy leihau eu lefelau stoc, ailgylchu stoc bresennol ac ystyried newid i ddewisiadau eraill bydd modd eu hailddefnyddio - a lle nad yw hyn yn bosibl, edrych ar ddewisiadau eraill di-blastig," meddai.

"Bydd ail gam y gwaharddiad yn cynnwys bagiau siopa untro plastig, caeadau polystyren ar gyfer cwpanau a chynwysyddion bwyd a chynhyrchion wedi'u gwneud o blastig ocso-ddiraddadwy. Daw hyn i rym cyn diwedd tymor y Senedd yn 2026."

Llun: Pixabay

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.