Newyddion S4C

Gwrthdrawiad bws ysgol: Angladd merch oedd wedi cynrychioli Cymru mewn cystadlaethau dringo

27/10/2023
S4C

Mae angladd merch 15 oed oedd wedi cynrychioli Cymru mewn cystadlaethau dringo wedi ei gynnal ddydd Gwener.

Roedd Jessica Baker yn teithio ar fws ysgol a wnaeth droi drosodd yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M53 yng Nghilgwri ar ddechrau mis Hydref.

Bu farw gyrrwr y bws Stephen Shrimpton yn y ddamwain hefyd.

Roedd yr eglwys yn orlawn ddydd Gwener, ac roedd linc fideo i'r angladd yn yr ysgol roedd Jessica yn ddisgybl ynddo.

Roedd clawr trefn y gwasanaeth angladdol yn dangos llun o Jessica yn dringo.

Cafodd yr angladd ei chynnal yn Eglwys Gatholig St Theresa yng Nghaer.

'Diymhongar'

Ychydig ddyddiau wedi ei marwolaeth, dywedodd ei theulu bod ei marwolaeth "wedi gadael twll mawr yn ein bywydau na fydd byth yn cael ei lenwi".

Fe wnaeth prifathro Ysgol Ramadeg West Kirby, yr ysgol lle'r oedd Jessica Baker yn ddisgybl, talu teyrnged hefyd.

"Mae ein meddyliau – ac rwy’n gwybod meddyliau cymuned ehangach yr ysgol – gyda theulu a ffrindiau Jessica ar yr amser hynod o drist ac anodd hwn," meddai Simeon Clarke.

“Yn hynod o garedig ac empathig, roedd Jessica yn ffrind ymroddedig a oedd yn aelod hoffus ac uchel ei pharch yn ein hysgol.

“Roedd hi’n fyfyrwraig ddiymhongar, gwrtais a chydwybodol a ddangosodd gwerthoedd ein hysgol.

“Bydd ei ffrindiau, ei chyd-ddisgyblion, a phawb yn Ysgol Ramadeg West Kirby, a gafodd y pleser a'r fraint o'i hadnabod, yn gweld colled fawr ar ôl Jessica.

“Wrth i ni ddychwelyd i’r ysgol yr wythnos hon, byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’i theulu a’i ffrindiau i sicrhau ein bod yn dathlu bywyd Jessica yn y ffordd fwyaf addas bosibl."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.