Carchar am oes i ddyn am lofruddio ei ffrind yn Abertawe
Mae dyn wedi'i ddedfrydu i garchar am oes ar ôl trywanu ei ffrind i farwolaeth.
Cafodd Paul Jenkins, 39 oed, ei ddedfrydu i garchar gyda lleiafswm o 20 mlynedd am y drosedd.
Cafwyd hyd i David Green, 61 oed, yn farw yn ei gartref yn Orchard Court, Abertawe gan swyddogion yr heddlu ar ddydd Sul 9 Ebrill eleni.
Yn gynharach y diwrnod hwnnw aeth Jenkins i Orsaf Heddlu Ganolog Abertawe gan ddweud ei fod wedi trywanu ei ffrind ac nad oedd yn credu ei fod yn fyw.
Aeth swyddogion i'r cyfeiriad a chanfod bod David Green wedi marw, ar ôl derbyn anafiadau cyllell.
Ar 15 Medi ymddangosodd Paul Jenkins yn y llys a phlediodd yn euog i lofruddiaeth Mr Green rhywbryd rhwng 6 a 9 Ebrill, ynghyd â throsedd o fod ag llafn yn ei feddiant yn Abertawe ar ddydd Gwener 7 Ebrill.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Paul Raikes: “Roedd hon yn llofruddiaeth ddisynnwyr gan Paul Jenkins ar ddyn bregus.
“Cafodd David Green ei lofruddio yn ei gartref gan rywun yr oedd yn ymddiried ynddo ac yn ei ystyried yn ffrind. Roedd lefel y trais a ddangoswyd gan Paul Jenkins yn eithafol ac yn dangos ei fod yn unigolyn peryglus.
“Hoffwn ddiolch i’r aelodau o’r gymuned a roddodd wybodaeth i ni ac a gefnogodd yr ymchwiliad.
“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau David sy’n galaru am ei golled, ac yr ydym yn parhau i’w cefnogi.
"Er nad yw dedfrydu heddiw yn dod â David yn ôl, rwy’n gobeithio ei fod yn cynnig rhywfaint o gysur i’w deulu a’i ffrindiau fod y dyn sy’n gyfrifol y tu ôl i fariau.”