Newyddion S4C

Cynnal gêm bêl-droed arbennig ar gyfer merch y gyflwynwraig Nicky John

29/10/2023
Nicky ac Emi.jpg

Fe fydd gêm bêl-droed arbennig yn cael ei chynnal ddydd Sul er mwyn codi arian ar gyfer elusennau sy’n bwysig iawn i rieni merch fach ddwy oed.

Yn un oed, fe dderbyniodd Emi, merch y gyflwynwraig Nicky John, ddiagnosis o ganser ar yr arennau ym Mawrth 2022.

Fe wnaeth Emi orffen ei thriniaeth cemotherapi ym mis Mawrth eleni ac mae hi’n cael profion bob tri mis.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru yn ddiweddar, dywedodd Nicky fod Emi mewn hwyliau da ac yn "gwneud yn grêt".

Fe fydd y gêm yn cael ei chynnal ar Gae-y-Castell yn Y Fflint, rhwng rhai o gyn-chwaraewyr CPD Wrecsam a thîm o enwogion Uwch Gynghrair Cymru a bydd yr holl arian yn mynd tuag at Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl.

'Blwyddyn anodd'

Mewn cyfweliad efo Newyddion S4C ym mis Mai, fe ddywedodd Nicky bod y cyfnod diwethaf wedi bod yn heriol ac ansicr iawn i’r teulu.

"Ma'i 'di bod yn flwyddyn mor anodd, mor heriol a weithia hyd yn oed rŵan, dwi'n edrych yn ôl a ma'n teimlo fel bo' fi'n siarad am fywyd rywun arall achos wrth reswm, does 'na'r un ohona ni byth yn dychmygu bod mewn sefyllfa lle 'dan ni'n mynd drwy rwbath mor erchyll... hunllef i bob rhiant," 

Mae Nicky yn ddiolchgar iawn o'r gefnogaeth mae hi a’i theulu wedi ei dderbyn gan y gymuned bêl-droed yng Nghymru.

"Mi ddoth cadeirydd Wrexham Legends John Morris, ata'i a sôn rhai misoedd yn ôl bellach am ei gynlluniau i drefnu gêm rhwng rhai o gyn-wynebau Wrecsam a falle rhai o gyn-wynebau Uwch Gynghrair Cymru hefyd,” meddai Nicky.

"Mae 'na dipyn o sgyrsiau wedi bod, ac mi ofynnwyd os fyswn yn fodlon iddyn nhw ei chwarae yn enw Emi a bod unrhyw arian yn mynd at elusen o'n dewis ni fel teulu.

"Mae hynny'n amlwg yn rhywbeth sy'n eich cyffwrdd chi ac yn reit emosiynol i ddweud y gwir, ond hefyd yn adlewyrchiad o sut mae pawb wedi bod yn meddwl amdanon ni ac yn dymuno'r gorau i ni yn ystod y flwyddyn a hanner diwetha'."

Bydd cic gyntaf y gêm ar Gae-y-Castell, Y Fflint, am 14:00 brynhawn Sul, 29 Hydref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.