Dyn dan amheuaeth o saethu 18 o bobol yn farw ym Maine yn parhau ar ffo
Mae cannoedd o swyddogion heddlu ar hyd talaith Maine yn parhau i chwilio am ddyn sydd o dan amheuaeth o saethu 18 o bobl yn farw.
Yn ôl adroddiadau o ddinas Lewiston cafodd 18 o bobol eu saethu yn farw yno nos Fercher. Cafodd 13 o bobl eu hanafu hefyd yn y digwyddiad.
Mae'r heddlu wedi rhybuddio bod y dyn sydd o dan amheuaeth yn dal gyda'i draed yn rhydd am yr ail ddiwrnod yn olynol.
Fe wnaeth yr heddlu enwi Robert Card, 40, oedd yn gweithio fel hyfforddwr saethu, fel rhywun oedd o ddiddordeb iddynt yn eu hymchwiliad gan ychwanegu ei fod yn cael ei ystyried yn ddyn "arfog a pheryglus".
Nos Iau fe ymgasglodd yr heddlu tu allan i gartref Mr Card yn Bowdoin, tua 20 munud o Lewiston.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn gweithredu nifer o warantau chwilio mewn sawl adeilad yn lleol.
Mae’r heddlu yn parhau i gynghori trigolion yn Maine y ogystal â thref gyfagos Lisbon, i aros dan do gyda'u drysau wedi eu cloi.
Dywedodd y Tŷ Gwyn fod yr Arlywydd Biden yn ymwybodol o'r sefyllfa ac y byddai'n parhau i dderbyn diweddariadau wrth i ymchwiliad yr heddlu fynd yn ei flaen.
Ysgolion ar gau
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Heddlu Lewiston Maine fod yna "saethwr yn Lewiston nad ydyn ni wedi dod o hyd iddo".
Yn ôl yr heddlu, digwyddodd yr ymosodiadau am tua 19:00 nos Fercher mewn bar ac mewn canolfan fowlio, sydd wedi eu lleoli tua phedair milltir i ffwrdd o'i gilydd.
Maent hefyd wedi rhyddhau llun o gerbyd gwyn, gan ofyn i unrhyw un sy'n ei adnabod i gysylltu gyda nhw.
Fe fydd ysgolion yn yr ardal yn parhau ar gau ddydd Gwener a nifer o adeiladau eraill hefyd, gan gynnwys busnesau lleol.