Newyddion S4C

'Niweidiol aruthrol': Blwyddyn gyntaf Elon Musk yng ngofal X

27/10/2023
S4C

Mae'r flwyddyn gyntaf i Elon Musk yng ngofal X, oedd gynt yn cael ei adnabod fel Twitter, wedi bod yn “niweidiol aruthrol”, meddai arbenigwyr yn y diwydiant.

Hydref 27 yw pen-blwydd cyntaf y biliwnydd wrth y llyw wedi iddo brynu'r cwmni cyfryngau cymdeithasol gwerth £36 biliwn.

Ers hynny, mae Mr Musk wedi diswyddo mwy na hanner staff y cwmni ac wedi newid yr enw i X, yn ogystal â chymryd rhan mewn cyfres o ddadleuon cyhoeddus am safoni cynnwys, rhyddid barn, ac adfer cyfrifon ar y platfform a gafodd eu gwahardd am dorri rheolau iaith casineb.

Mae'r platfform hefyd wedi dioddef o achos trafferthion technegol ac mae rheoleiddwyr ledled y byd yn craffu ar yr hyn y mae X yn ei wneud i atal cynnwys niweidiol rhag lledaenu.

Pan ofynnwyd iddo am flwyddyn gyntaf Mr Musk yn bennaeth ar X, dywedodd y sylwebydd cyfryngau cymdeithasol Drew Benvie, sylfaenydd a phrif weithredwr yr asiantaeth gyfathrebu Battenhall “na allai ddychmygu ei fod wedi mynd yn waeth”.

Image
newyddion

Tynnodd sylw at y penderfyniad i newid system ddilysu’r wefan fel bod modd i unrhyw un sy’n talu bellach brynu tic glas yn hytrach na’r platfform yn dyfarnu pwy sydd yn ddilys.

“Yr hyn oedd yn arfer digwydd mewn achos o drefnu camwybodaeth bwriadol fyddai creu, trwy feddalwedd, miloedd os nad cannoedd o filoedd o gyfrifon sy’n hyrwyddo ei gilydd ac yn edrych yn real - ond nawr mae Mr Musk wedi gwneud hynny’n waeth, pan oedd yn meddwl ei fod yn ei wella."

“Yr hyn y mae person cyffredin eisiau wrth ddarllen rhywbeth ar ei sgrin yw deall os yw’n ffaith neu’n ffuglen, ac ar hyn o bryd nid Twitter yw’r lle i unrhyw un ddarganfod hynny.”

'Drud a niweidiol'

Disgrifiodd ei gyd-arbenigwr cyfryngau cymdeithasol, Matt Navarra, flwyddyn Mr Musk ar y safle fel un “anhrefnus, drud a hynod niweidiol”.

Dywedodd wrth PA fod penderfyniad Mr Musk wedi “dinistrio” brand ac enw da’r cwmni, ac wedi niweidio ymddiriedaeth y cyhoedd yn y wefan yn ddrwg.

Rhybuddiodd hefyd y byddai perthynas y safle â hysbysebwyr yn gwaethygu yn achosi problemau i’r cwmni yn y dyfodol agos gan ei fod bellach yn dibynnu ar ddod o hyd i ffrydiau refeniw eraill er mwyn talu dyledion.

Dywedodd Mr Navarra nad oedd yn meddwl y byddai X yn “diflannu” ond rhybuddiodd y gallai ei ddefnyddwyr ddod yn fwy eithafol.

“Rwy’n meddwl y bydd yn lle digon annymunol i fod ar gyfer cynulleidfa brif ffrwd,” meddai.

Mewn cyfweliad ym mis Mai, dywedodd Elon Musk yn byddai'n parhau i drydaru negeseuon dadleuol ac ymfflamychol yn enw rhyddid barn.
 
“Fe ddyweda’ i beth dw i eisiau ei ddweud, ac os mai canlyniad gwneud hynny yw colli arian, felly y bydd," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.