
Maint y buddsoddiad sydd ei angen i gynnal darlledu Cymraeg 'yn frawychus'
Mae'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig yn wynebu "difancoll digidol" os na fydd darlledu'n cael ei ddiwygio yng Nghymru.
Dyma ganfyddiad adroddiad newydd 'Darlledu yng Nghymru' gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan.
Dywed y pwyllgor fod maint y buddsoddiad sydd ei angen i gynnal darlledu yn Gymraeg yn "frawychus", ac mae'r adroddiad yn galw am gydweithio agosach rhwng BBC Cymru ac S4C, tra'n parhau i sicrhau brand unigryw ac annibyniaeth S4C.
Dywed yr adroddiad bod angen brys i unioni'r gwahaniaeth rhwng ariannu darlledwyr cyhoeddus sy'n darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn cystadlu gyda'r elw sydd yn cael ei gynhyrchu gan gwmnïau ffrydio rhyngwladol.
"Yn wahanol i gewri ffrydio, mae’n rhaid i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus weithredu o fewn fframweithiau cenedlaethol o ddeddfwriaeth a rheoleiddio, gan wasanaethu pob cynulleidfa, cynnig cynnwys am ddim yn y man defnyddio, a bod yn orfodol i ddarparu rhaglenni ar gyfer holl wledydd a rhanbarthau’r DU.
"Rhaid i’r Llywodraeth gyflwyno’r Bil Cyfryngau, sy’n ceisio gwneud rheolau hen ffasiwn yn deg rhwng darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a chwmnïau ffrydio, i’r Senedd cyn gynted â phosibl", medd awduron yr adroddiad.
Maent yn manylu ar y toriadau sydd wedi dod i S4C dros y blynyddoedd, gyda'r "unig ddarlledwr cyhoeddus Cymraeg" yn gweld cwymp o 36% yn ei gyllideb ers 2010.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mae S4C yn falch fod y pwyllgor mor gefnogol i'n gwaith, ac hefyd yn gefnogol i'r camau fyddai'n diogelu amlygrwydd i S4C a'n gwasanaethau wrth i'r tirlun darlledu newid".
Llwyddiant ond pryder
Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig Stephen Crabb AS: “Mae darlledu yng Nghymru yn stori lwyddiant ryfeddol, ac mae wedi chwarae rhan bwysig wrth lunio bywyd cenedlaethol Cymru dros y ganrif ddiwethaf ac atgyfnerthu hunaniaeth Gymreig fodern.
"Mae gennym ni ecosystem lewyrchus o dalent greadigol a chwmnïau cynhyrchu llwyddiannus ledled Cymru sy’n cefnogi swyddi ac yn ychwanegu gwerth economaidd gwirioneddol. Ond rydym yn pryderu bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn rhy araf i addasu i gerrynt y chwyldro darlledu byd-eang, a rheoleiddio yn rhy wan i sicrhau chwarae teg gyda'r cewri ffrydio byd-eang newydd.
“Rhaid i Lywodraeth y DU fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn fel mater o frys a chyflwyno’r Bil Cyfryngau hir-ddisgwyliedig i sicrhau bod rheolau newydd yn gallu amddiffyn y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus.
"Ond mae angen i’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eu hunain gamu i’r adwy a gwella’r ffordd y maent yn cyflwyno cynnwys Cymraeg ar eu platfformau digidol eu hunain.
“Mae chwaraeon yng Nghymru yn wynebu heriau ariannol dybryd, ac rydym yn cydnabod y tensiwn sy’n bodoli rhwng cynyddu cynulleidfaoedd teledu i’r eithaf trwy ddarlledu am ddim a gwneud y mwyaf o’r refeniw sydd ar gael o fynd y tu ôl i wal dâl. Ond barn gref y pwyllgor yw y dylai ein timau cenedlaethol fod ar gael i'w gwylio am ddim. I rygbi Cymru...mae hyn yn arbennig o bwysig. Rhaid i gystadleuaeth y Chwe Gwlad aros yn rhad ac am ddim.”
'Gwraidd y broblem'
Wrth ymateb i adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, dywedodd Cymdeithas yr Iaith nad oedd eu hargymhellion yn mynd i "wraidd y broblem.”
“Mae’r adroddiad yn cydnabod pa mor fregus ac ansicr yw dyfodol cyllido darlledu Cymraeg, y diffyg rheoleiddio ar radio masnachol, a’r her sy’n dod gyda’r chwyldro yn y cyfryngau digidol.
“Er hyn, ei unig argymhellion yw adolygu cylch gwaith Ofcom, pasio Bil y Cyfryngau drwy San Steffan, ac annog perthynas agosach rhwng S4C a’r BBC.
“Dydi’r rhain ddim yn mynd at wraidd y broblem, rhaid datganoli darlledu i Gymru.”