Disgwyl y bydd 1.7 miliwn o bobl yn byw â dementia yng Nghymru a Lloegr erbyn 2040
Gall nifer y bobl sy’n dioddef o dementia yng Nghymru a Lloegr gynyddu i hyd at 1.7 miliwn erbyn 2040, medd ymchwil newydd.
Mae’r ymchwil gan Goleg Prifysgol Llundain (UCL), yn awgrymu y gallai’r baich ar wasanaethau iechyd a gofal fod yn “llawer uwch” na’r disgwyl.
Bu gostyngiad yn nifer yr achosion rhwng 2002 a 2008, a chynnydd rhwng 2008 a 2016,” meddai’r ymchwilwyr.
“Petai’r duedd yn parhau i gynyddu, ar y cyd gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, gall nifer y bobl sy’n byw gyda dementia yng Nghymru a Lloegr gynyddu i 1.7 miliwn erbyn 2040.”
‘Syfrdanol’
Dywedodd arweinydd yr ymchwil, Dr Yntao Chen o Sefydliad Epidemioleg a Gofal Iechyd Coleg Prifysgol Llundain fod y ffigyrau yn “syfrdanol.”
“Bydd effaith dinistriol ar fywydau pobl sy’n dioddef, ond bydd baich sylweddol ar wasanaethau iechyd a gofal hefyd – a hynny’n llawer uwch na’r rhagolygon.”
Roedd yr ymchwil hefyd yn awgrymu fod cyfradd dementia hefyd yn cynyddu mewn unigolion hŷn.
Dywedodd yr Athro Eric Brunner, Prif Ymchwilydd yr adran Epidemioleg a Gofal Iechyd Coleg Prifysgol Llundain: “Rydym wedi darganfod bod poblogaeth sy’n heneiddio yn un o’r prif resymau dros y cynnydd yn nifer yr achosion o ddementia yng Nghymru a Lloegr, ond hefyd bod nifer y bobl sy’n datblygu dementia o fewn grwpiau oedran hŷn yn cynyddu.”
Yng Nghymru, mae'r llywodraeth yn darparu £12 miliwn y flwyddyn i fyrddau partneriaeth rhanbarthol i gefnogi cynllun i fynd i'r afael â dementia.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gennym weledigaeth glir i ni fod yn genedl sy'n deall dementia ac sy’n cydnabod hawliau pobl â dementia i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael byw mor annibynnol â phosib yn eu cymunedau.
"Rydym yn cydnabod bod dementia yn fater iechyd a gofal cymdeithasol o bwys sy'n effeithio nid yn unig ar y rhai sy'n byw gyda dementia, ond ar eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u gofalwyr hefyd.