Newyddion S4C

Noel Mooney wedi 'synnu mwy nag unrhyw un arall' gan adroddiadau 'ffug' ynghylch dyfodol Rob Page

26/10/2023
Noel Mooney

Cafodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, "sgwrs dda" gyda Robert Page yn sgil  honiadau papur newydd fod swydd y rheolwr dan fygythiad. 

Mewn cyfweliad arbennig gyda Sgorio, dywedodd Mr Mooney  ei fod  wedi “synnu mwy nag unrhyw un arall” ynglŷn â honiadau ym mhapur newydd y Sun ei fod wedi ystyried Roy Keane fel dewis posib yn swydd hyfforddwr Cymru. 

Wrth siarad â Dylan Ebenezer, dywedodd Mr Mooney: “Roedd y stori yn rwtsh llwyr. Daeth yr holl beth fel sioc i ni."

Dywedodd Mr Mooney fod o a Llywydd y Gymdeithas, Steve Williams, wedi cael trafodaeth gyda Rob Page wedi i'r stori ymddangos.

"Naethon ni eistedd i lawr a chael paned o goffi fyny yn Wrecsam," meddai.

"Fe wnaeth Rob ambell i bwynt, a fe wnaethon ni rhai pwyntiau, a fe wnaethon ni gytuno ar bopeth gyda'n gilydd." meddai. "Roedd yn drafodaeth bositif a chynhyrchiol iawn.

"Mae'r Gymdeithas yn gwbl gefnogol i Rob. Mae'n gwneud gwaith gwych."    

Daeth sibrydion ynglŷn â dyfodol swydd Rob Page i’r amlwg ddiwrnod yn unig gyn i Gymru herio Croatia yn rowndiau rhagbrofol Euro 24 yn gynharach y mis. 

Llwyddodd Cymru i guro Croatia yn y gêm honno, gan ennill o 2-1, a chadw eu gobeithio o gyrraedd rowndiau terfynol y bencampwriaeth yn fyw. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.