Tri chwmni o Gymru'n dod i'r brig yng Ngwobrau Bwyd a Ffermio 2023
Mae tri chwmni o Gymru wedi ennill gwobrau yng Ngwobrwyau Bwyd a Ffermio'r BBC eleni.
Fe gafodd noson wobrwyo ei chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd nos Fercher.
Cwmnïau Cosyn Cymru, Maasi's a Peterston Tea oedd yr enillwyr o Gymru ar y noson.
Fe wnaeth Cosyn Cymru, cwmni sydd wedi ei leoli ym Methesda ac yn creu caws ac iogwrt, ennill y wobr Cynhyrchydd Bwyd Gorau.
Dywedodd Carrie Rimes o Cosyn Cymru wrth Newyddion S4C bod derbyn enwebiad am y wobr yn annisgwyl, heb sôn am ei hennill.
"Dwi mor hapus, dwi’n astonished ac yn falch ofnadwy o ennill y wobr," meddai.
"Ma lot o gwmnïau yn cael eu henwebu felly oni ddim yn disgwyl o, ‘da ni’n ddiolchgar iawn i’r bobl sydd wedi enwebu ni ond neshi ddim feddwl bod fi efo siawns i ennill.
"Da ni’n gwmni mor fach felly i fod mewn sefyllfa i drafod gyda enwogion a hefyd busnesau bach eraill yn grêt.
"Doedd dim syniad gennai beth oedd yn mynd y ddigwydd ar y noson. Y prif beth oeddwn i’n poeni am oedd gorfod gwneud araith.
"Ond doeddwn i ddim yn poeni achos oeddwn i’n meddwl bod fi ddim yn mynd i ennill.
"Pan oedd nhw wedi dweud Cosyn Cymru oedd o’n hollol daze, doeddwn i ddim yn disgwyl i ennill o gwbl.
'Sioc'
Bwyty Maasi's yng Nghaerdydd wnaeth ennill y wobr am Fwyd Stryd Gorau 2023 yn y gwobrau eleni.
Maen nhw'n gwneud bwyd Pacistanaidd ac yn methu credu eu bod nhw wedi ennill.
"Mae’n sioc enfawr ond rydym yn hynod o falch.
"Mae wedi bod ac yn parhau i fod yn gyfnod anodd, ond mae hefyd yn hyfryd bod yn rhan o'r byd bwyd yng Nghaerdydd ac am fod yn rhan o'r gymuned ym Mharc Vicky, mae'n gymuned hyfryd, diolch am ein henwebu.
"Diolch i fy merched bendigedig yn Maasi's. Mae'r wobr hon yn golygu'r byd"
Enillwyr y wobr am y Cynhyrchydd Bwyd a Diod Gorau yng Nghymru oedd Peterston Tea sydd wedi ei leoli ym Mro Morgannwg.
"Ar hyn o bryd rydym ni dal mewn sioc a dal yn methu credu beth ddigwyddodd nos Fercher," meddai'r cwmni.
"Mae cael y math yma o gydnabyddiaeth am yr hyn rydyn ni'n ei wneud yma tu hwnt i'r hyn allen ni erioed ddychmygu."
Cafodd Gwobrau Bwyd a Ffermio y BBC eu lansio yn 2000, i nodi pen-blwydd The Food Programme ar BBC Radio 4 yn 20 oed.
Mae cynulleidfaoedd y BBC yn enwebu unigolion a busnesau sy’n gyfarwydd iddyn nhw ac sy’n gwneud pethau ysbrydoledig ym myd bwyd, meddai'r BBC.
Mae rhestr fer o gystadleuwyr yn cael eu beirniadu’n drylwyr gan rai o arbenigwyr bwyd pennaf y wlad.
Ers 2000, mae 450 wedi cyrraedd rhestr fer y Gwobrau Bwyd a Ffermio ar draws Prydain a Gogledd Iwerddon o blith dros 75,000 o enwebiadau.