Newyddion S4C

Angen 'cynnydd mawr' mewn biliau dŵr er mwyn lleihau llygredd

S4C

Byddai  cynlluniau i leihau llygredd yn y môr ac yn afonydd Cymru yn golygu cynnydd sylweddol mewn biliau dŵr i gwsmeriaid, yn ôl adroddiad gomisiynwyd gan y llywodraeth.

Gallai biliau blynyddol i gwsmeriaid  Dŵr Cymru gynyddu rhwng £50 a £220 y flwyddyn, gan ddibynnu ar y math o welliannau fyddai'n cael eu gwneud i sustemau gorlifo storm.

Mae'r adroddiad gan ymgynghorwyr annibynnol i Lywodraeth Cymru yn cynnig naw opsiwn gwahanol, ond does dim argymhellion terfynol yn cael eu gwneud.

Ond mae'n dweud y byddai polisi fyddai'n atal niwed amgylchedd i afonydd, a sicrhau na fyddai sustemau'n gorlifo mwy na 10 gwaith y flwyddyn, yn costio hyd at £6.5 biliwn, ac yn ychwanegu rhwng £80 a £220 y flwyddyn i fil nodweddiadol Dŵr Cymru.

Posibilrwydd arall fyddai lleihau effaith niwediol gorlifo carthffosiaeth, ond heb ei atal. Yn ôl yr adroddiad, byddai hynny'n costio hyd at £2.7 biliwn, ac yn ychwanegu rhwng £50 a £90 y flwyddyn i fil cwsmer cyffredin.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tasglu i edrych ar sut i wella ansawdd  dŵr.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Bydd yr opsiynau hyn yn helpu i arwain y Tasglu wrth ddatblygu targedau cyraeddadwy a fforddiadwy i atal niwed ecolegol yn nyfrffyrdd Cymru."

Ychwanegodd: "Mae angen inni gael cydbwysedd rhwng cymryd camau effeithiol a sicrhau bod biliau'n fforddiadwy, yn enwedig o ystyried yr argyfwng costau byw presennol. Mae Llywodraeth Cymru yn glir iawn ein bod yn disgwyl i gwmnïau dŵr ddarparu'r safonau gwasanaeth uchaf i'w cwsmeriaid, a lle mae cwmnïau dŵr yn methu â rheoli llygredd yn effeithiol, rydym yn disgwyl i'r camau gorfodi priodol gael eu cymryd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.