Newyddion S4C

'Mae’r system iechyd wedi torri': Oedi cyn derbyn triniaeth canser

Newyddion S4C 26/10/2023

'Mae’r system iechyd wedi torri': Oedi cyn derbyn triniaeth canser

“Mae’r system iechyd wedi torri”. Dyna rybudd un fam ifanc o Gaerdydd, sydd wedi bod yn brwydro canser y fron. 

Llynedd, yn 36 oed, fe gafodd Lowri Mai Loader, sy’n wraig i brif ohebydd Newyddion S4C Gwyn Loader, wybod bod ganddi fath prin o ganser y fron – canser negyddol triphlyg.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Lowri: “On i wirioneddol byth yn meddwl bydde rhywbeth fel hyn yn digwydd i fi. Odd ddim lwmpyn da fi, odd e jyst yn ardal bach mwy trwchus o groen, a petawn i ddim yn dal i fwydo fy mab bach i bydden i byth ‘di ffeindio fe, a ma hwna’n hala ofn arna i, achos fi’n meddwl,  petawn i wedi gadael rhyw ddeufis i fynd heibio, bydde fy stori i’n dra gwahaol nawr.”

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod yn buddsoddi’n helaeth mewn gwasanaethau er mwyn gwella diagnosis. Fe ddylai pawb ddechrau triniaeth o fewn 62 o ddiwrnodau o fynd at eu meddyg teulu.

Yn achos Lowri Mai Loader, wnaeth hynny ddim digwydd.

“Odd y chwe wythnos yna, yn dilyn y diagnosis hyd at ddechre triniaeth, y chwe wythnos hiraf, mwya hunllefus fy mywyd i. On i'n teimlo fel bo’ fi di cael  diagnosis o ganser ymosodol, odd yn lledaenu’n gyflym. 

"O'n i’n gwbod bod e’n tyfu ond odd dim byd yn digwydd i drin e. O’r cyfnod pan es i at y meddyg teulu, odd hwnna ddiwedd Awst, nes i ddim dechre triniaeth tan y 25ain o Dachwedd. Ma hwnna’n gyfnod hir. 

"Y nyrsys, y doctoriaid, ma nhw’n gweithio mor mor galed, ma nhw’n anhygoel yn Felindre, ond ma nhw i gyd yn gweithio o fewn system sydd wedi torri.

“Pan ddechreuais i’r triniaeth, yn syth o’n i’n teimlo’n well, yn feddyliol, ac yn gorfforol, on i’n gallu teimlo’n gorfforol bod y driniaeth yn gweithio. Odd y canser, erbyn pan o’n i’n dechre triniaeth, on i’n gallu teimlo bod e’n lledaenu, ac odd hwnna’n frawychus. 

"Odd yr arbenigwr yma di dweud wrthai 'this is an aggressive cancer’ a pan chi’n clywed newyddion fel ‘na, a chi’n gorfod aros chwe wythnos, jyst yn hongian rownd y tŷ, mae’n anodd iawn. Mae canser yn echrydus.”

Image
newyddion
Lowri'n derbyn triniaeth

Mae elusen Macmillan hefyd yn rhannu pryderon Lowri Mai Loader.

Dywedodd Glenn Page o'r elusen: “Mae Macmillan yn clywed yn ddyddiol am bobl sy’n byw ar draws Cymru, sy’n wynebu oedi i’w triniaeth canser nhw, gan gynnwys pobl sy’n byw gyda brest cancer a ma lot o resymau pam bod hynny’n digwydd. Ond mae rhaid i ni gyd, mae rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu i sicrhau bod pobl yn gallu cael y driniaeth a’r gofal ma nhw angen pryd mae nhw angen." 

Wrth ymateb i’r oedi, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweld cynnydd blynyddol yn y galw am wasanaethau canser, a’u bod yn buddsoddi’n helaeth mewn gwasanaethau er mwyn gwella diagnosis, a darparu gofal o ansawdd uchel, mor gyflym â phosib.

Rhannu profiad

Ar ddiwedd mis codi ymwybyddiaeth canser y fron, roedd Lowri’n teimlo bod yn rhaid iddi rannu ei stori. 

“Y brif neges dwi isie rhannu yw, mae e mor mor bwysig bo ni’n ymwybodol o’n cyrff ni. Unrhyw newidiadau ac yn y blaen, mae e mor bwysig i godi ymwybyddiaeth, achos chi byth yn meddwl bod y pethe ma’n digwydd i chi. 

"O'n i byth yn meddwl bydde hwn yn digwydd i fi.”

Prawf clinigol

Mae’r daith yn parhau iddi, meddai. Ar ôl 15 rownd o gemotherapi, llawdriniaeth a radiotherapi, mae’n cymryd rhan nawr mewn prawf clinigol:

"Y neges dwi di cael yw “there are no visible signs of cancer at the moment, as far as we know”, a ma hwnna’n anodd clywed, achos chi’n teimlo fel 'oh gosh, oce, dy’ nhw ddim yn gallu dweud wrthai’n bendant'.

"Dyna pam nes i benderfynu bod yn rhan o’r astudiaeth glinigol yma. On i’n meddwl, 'wel, ma rhaid i fi allu edrych ar fy mhlant i yn eu llygaid a dweud - 'ma mam ‘di trio popeth, mae mam wedi rhoi bob cyfle i’w hunan i weld chi’n tyfu lan'”. 

"O ni byth yn meddwl bydde hwn yn digwydd i fi. Fi'n credu bod pobl yn meddwl bod y profiad o gansyr y fron, yn enwedig y syniad o godi ymwybyddiaeth ohono fe, yn binc ac yn fflwfflyd. Ond dyw cansyr y fron yn sicr ddim yn binc a fflwfflyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.