Newyddion S4C

Llygedyn o obaith i ymgyrchwyr sy'n ceisio diogelu tir mewn pentref ger Aberystwyth

26/10/2023
S4C

Daeth llygedyn o obaith i ymgyrchwyr sy'n ceisio diogelu tir ar gyfer y gymuned mewn pentref ger Aberystwyth ddydd Iau.

Mewn cyfarfod o Gyngor Ceredigion fe bleidleisiodd cynghorwyr yn unfrydol o blaid gwrthod awgrymiadau adroddiad fyddai wedi cau y drws ar obeithion ymgyrchwyr ym mhentref Waunfawr i gofrestru cae Erw Goch fel maes pentref swyddogol.

Roedd pobl leol wedi bod yn ymgyrchu i atal cynlluniau ar y cyd rhwng y cyngor a chwmni Wales and West Housing i godi dros 70 o dai ar y safle.

Eu gobaith oedd dynodi'r cae yn dir comin neu faes pentref, gyda'r cais i'r cyngor wedi ei gyflwyno yn enw Sian Richards o Lanbadarn Fawr.

Mae grŵp Cyfeillion Erw Goch, sydd wedi brwydro gyda’r cyngor ers blynyddoedd dros y maes, wedi dweud eu bod yn “credu’n gryf" bod dadl swyddogion y cyngor o "anghydnawsedd statudol" yn cael ei ddefnyddio fel "arf jargon cyfreithiol gyda’r nod o ddallu’r ymgeisydd a chynghorwyr sir".

Clywodd y cynghorwyr bod asesydd annibynnol wedi dod i'r casgliad nad oedd modd i gais yr ymgyrchwyr i ddynodi'r tir fel maes pentref swyddogol lwyddo.

Ond mewn cyfarfod o'r cyngor ddydd Iau, cafodd awgrym yr asesydd ei wrthod yn unfrydol.

Nid oes penderfyniad eto ar pa gam fydd y cyngor yn ei gymryd nesaf, ond gallai'r awdurdod ofyn am farn annibynnol o'r newydd am ddefnydd y tir yn Waunfawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.