Newyddion S4C

Arestio dau berson ar amheuaeth o lofruddio yn Wrecsam

26/10/2023
Heddlu

Mae dau o bobl wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn yn Wrecsam.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i ddigwyddiad mewn tŷ ym Mhentre Gwyn am 18:14 ddydd Llun.

Fe wnaeth swyddogion y llu a gweithwyr y gwasanaeth ambiwlans ymateb i'r digwyddiad.

Bu farw dyn 40 oed yn y fan a'r lle.

Mae dau o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau barhau.

Mae'r crwner a theulu'r dyn wedi cael gwybod.

Dywedodd y Prif Arolygydd Mark Hughes: "Mae'n ddyddiau cynnar yr ymchwiliad. 'Da ni'n cadw meddwl agored o ran yr amgylchiadau.

"Hoffwn dawelu meddwl y gymuned ein bod ni ddim yn credu fod risg ehangach i'r cyhoedd.

"Rydym yn gofyn i unrhyw un sydd efo gwybodaeth a all helpu hefo'n hymchwiliad gysylltu hefo ni ar 101, neu drwy'r wefan, gan ddefnyddio rhif cyfeirnod 23001046393.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.