Newyddion S4C

Angen 'newid y naratif' wrth roi gwybodaeth i rieni am Syndrom Down

27/10/2023

Angen 'newid y naratif' wrth roi gwybodaeth i rieni am Syndrom Down

Mae tair mam sy’n rhedeg elusen yn gobeithio ‘newid y naratif’ ynghylch y cyflwr Syndrom Down. 

Mae gan Laura Thomas, Lou Kennedy a Laura Howard blant gyda Syndrom Down, a'r tair yn gyfrifol am redeg elusen Seren Dwt. 

Yn ystod eu beichiogrwydd, a phan ganed eu plant nhw, roedd clywed gwybodaeth am y cyflwr fel derbyn “llythyr i alaru” meddai'r dair mam.

Bu’r tair, a rhieni eraill sy'n derbyn cefnogaeth gan yr elusen yn trafod eu profiadau gyda Newyddion S4C. 

Image
seren dwt
Arweinwyr Seren Dwt - Laura Thomas; Laura Howard a Lou Kennedy (o'r chwith)

Cafodd Seren Dwt ei sefydlu ym mis Mawrth 2022. 

Dywedodd Laura Thomas: “Fe wnes i roi neges ar Facebook cwpl o flynyddoedd yn ôl, yn sôn am focsys dathlu sy’n cael eu rhoi i deuluoedd mewn rhannau eraill o’r DU ac ar draws y byd. 

“Doedd dim byd tebyg yng Nghymru ar y pryd. 

“Pan gath fy mhlentyn ei eni, fe wnes i dderbyn amlen frown debyg i lythyr galaru. Doedd dim un o’r meddygon yn gwybod sut i roi’r newyddion i mi."

'Ti’n barod i gael gwared â fe?'

Image
Nancy
Nancy, merch Kat

Cafodd Kat Brooker brofiad tebyg. Mae ganddi ferch o’r enw Nancy, sy’n dair oed.

Un peth sy’n aros yn ei chof yw’r ffordd y derbyniodd hi’r newyddion am ddiagnosis ei merch, dim ond 12 wythnos i mewn i’w beichiogrwydd. 

Yn ôl Kat, mae angen i ysbytai gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyflwr i’w drosglwyddo i deuluoedd. 

“Pan o’n i yn yr ysbyty o’n ni’n cal sgans bob wythnos ond dim ar unrhyw adeg roedd y meddygon wedi dweud ‘dyma’r grwpiau cefnogaeth sydd ar gael’. 

“Odd e i gyd yn doom and gloom facts

“O’n i’n lwcus o’n i’n gweithio o fewn safle gyda plant ag anghenion gwahanol, so odd profiad gen i yn barod. 

“Ond os byse hwnna ddim gyda fi dydw i ddim yn gallu dweud bydde fi ddim wedi neud y choice i gal y termination

“Achos y ffordd roedden nhw’n siarad gyda fi, bob apwyntiad, oedd ti’n barod i gael gwared â fe?

“A ‘sa fi wedi cael ei pusho mewn iddo fe, timod.”

Dyfodol

Un peth a ddaeth yn amlwg i Kat yn ystod ei beichiogrwydd oedd ei phryderon hi am fywyd ei merch. 

Yn hytrach na meddwl am ei phlentyn fel babi newyddanedig, roedd ei meddyliau yn troi at y dyfodol a sut fywyd fyddai ei phlentyn yn ei wynebu fel oedolyn.

“Ti byth eisiau neb i weld plentyn ti yn llai na plentyn arall ond sut odd bywyd hi mynd i fod fel? 

“Odd hi mynd i fynd i ysgol? Odd e’n stupid ond o ti’n meddwl am bethau ‘odd yn rili bell lawr y ffordd. 

“O’n i ddim yn meddwl am babi o’n i’n meddwl am beth sy’n mynd i ddigwydd pan mae’n oedolyn. 

“Mae’n lle od i fod,” meddai Kat. 

'Sioc enfawr'

Cafodd Huw brofiad mwy cadarnhaol wrth glywed am ddiagnosis ei ferch, Alys. 

Er hyn mae yntau hefyd wedi sylwi ar bwysigrwydd y defnydd o iaith pan yn derbyn newyddion am ddiagnosis eu plant.

“Pan chi’n derbyn newyddion fel hyn ma fe gallu bod yn sioc enfawr. A ma’r ffordd da chi’n derbyn y newyddion yn hollbwysig. 

“O’n i’n ffodus iawn. Gawson ni’r newyddion mewn ffordd dealladwy iawn. Ma’r defnydd o iaith yn gallu bod yn bwysig. 

“Ma elusennau fel Seren Dwt yn annog staff i ddefnyddio termau fel beth yw’r tebygrwydd o gael y diagnosis yn hytrach na beth yw’r peryg."

'Amrhisadwy'

Mae’r Seren Dwt wedi bod yn gysur i’r ddau riant sydd wedi rhannu eu profiadau gyda Newyddion S4C. 

I Huw, mae’r grŵp wedi rhoi cyfle i drafod yr heriau a rhwystrau o fagu plentyn gyda Syndrom Down.

“Un peth mae’r gymuned yn neud yw rhoi cyfle i ni ddod at ein gilydd a chael trafod. 

“Felly ni’n gwybod bod y problemau da ni’n dod ar eu traws yn gyffelyb i bawb hefyd,” meddai. 

Ac i Kat, mae’r gefnogaeth wedi bod yn 'amrhisadwy'. 

“Da ni’n lwcus – ma’ pawb sy’n cwrdd â Nancy yn dwli arni hi. Mae ganddi hi gymaint o ffrindiau – mwy na fi."

Image
Seren dwt

Mae’r elusen yn creu bocsys dathlu yn llawn gwybodaeth, cynnyrch Cymreig a theganau i roi i rieni ar enedigaeth eu plant gyda Syndrom Down.

Dywedodd Laura Thomas: “Boed yn ddiagnosis cyn-geni neu yn anenedig, y syniad yw roi’r bocsys yma i rhieni pan maen nhw’n geni ei plentyn."

I Laura Howard o'r elusen mae’r bocsys yn ‘ddathliad.’

“Maen nhw i ddweud llongyfarchiadau. 

“Anrhegion i rieni, a’r babi fel dathliad o enedigaeth newydd," meddai.

Mae gan bob ysbyty yng Nghymru fynediad at y bocsys dathlu sy’n cael eu creu gan yr elusen.

Hyd yma, maen nhw wedi darparu hyd at 45 bocs i deuluoedd ar draws y wlad ac yn gobeithio parhau gyda’i hymgyrch i newid y ‘naratif’ yngnghylch Syndrom Down. 

 

Prif Lun: Huw ac Alys; Nancy a Kat.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.