Calan Gaeaf: Annog pobl i fwyta eu pwmpenni am eu bod yn creu gwastraff bwyd ‘dychrynllyd’
Mae pobl sy’n dathlu Calan Gaeaf yn cael eu hannog i fwyta eu pwmpenni wedi pryderon eu bod nhw’n creu gwastraff bwyd “dychrynllyd”.
Mae un o gynghorau Cymru wedi galw ar bobol i ddefnyddio'r pwmpenni er mwyn “cawl, tarten neu hyd yn oed lasagne blasus”.
Daw wrth i arolwg newydd ddangos fod 30 miliwn o bwmpenni wedi cael eu prynu yn y DU i’w cerflunio a 16 miliwn o’r rheiny yn cael eu taflu allan gyda sbwriel arferol y cartref.
Mae hynny gyfystyr â gwastraffu pwmpenni gwerth 95 miliwn pryd bwyd, sy’n werth £26.7 miliwn.
Bydd trigolion Powys yn prynu tua 63,000 o bwmpenni adeg Calan Gaeaf, gan greu 135 o dunelli o wastraff bwyd ychwanegol yn y broses, meddai’r cyngor.
“Beth sydd fwyaf dychrynllyd yw bydd y rhan fwyaf yn cael eu defnyddio ar gyfer addurn yn unig a byth yn cael eu bwyta,” meddai llefarydd ar ran y cyngor.
“Mae tu fewn y pwmpenni’n gwneud cawl, tarten neu hyd yn oed lasagne blasus.
“Pan fyddan nhw wedi dod i ben, gallwch roi’r hen bwmpenni ar eich tomen gompost neu eu torri a’u rhoi yn eich cadi bwyd.”
‘Ynni’
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Gwyrdd, y Cynghorydd Jackie Charlton fod y canfyddiadau yn “syfrdanol”.
“Mae’n syfrdanol darganfod y byddai plisgyn allanol pob pwmpen unigol yn gallu cynhyrchu digon o ynni i bweru aelwyd deuluol gyfartalog am awr gyfan,” meddai.
“Felly cofiwch, ar ôl bwyta gymaint ag y gallwch o’r bwmpen, a chael hwyl yn gwneud lanterni brawychus, rhowch y gweddillion yn y bin bwyd a gwneud eich rhan i greu dyfodol mwy glân a gwyrdd.”
Mae pobl yn cael eu hannog i beidio â thaflu eu pwmpenni mewn coedwigoedd neu barciau am nad ydyn nhw’n blanhigion brodorol i Gymru ac fe allen nhw wneud bywyd gwyllt yn sâl neu ddenu llygod.
Llun gan David Menidrey.