Israel yn 'paratoi am ymosodiad ar y tir yn Gaza' meddai Benjamin Netanyahu
Mae Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu wedi dweud bod Israel yn paratoi am ymosodiad ar y tir yn Gaza.
Wrth siarad mewn araith ar y teledu o Tel Aviv, dywedodd y prif weinidog mai "dim ond y dechrau ydi hyn" gan ychwanegu fod milwyr "eisoes wedi cael gwared ar filoedd o derfysgwr".
Nid yw Mr Netanyahu wedi dweud pryd yn union y byddai yr ymosodiad yn digwydd, gan ychwanegu nad ydy'r manylion yn gyhoeddus ac mai "fel hyn y dylai pethau fod".
"Dwi eisiau gwneud hyn yn glir, mae amseru ymgyrch yr IDF yn cael ei benderfynu yn unfrydol gan y cabinet sy'n rhedeg y rhyfel ynghyd â phennaeth y staff cyffredinol," meddai.
Dywedodd hefyd na ddylai pobl Israel "anghofio am un eiliad" am y bobl sydd wedi cael eu lladd yn ystod ymosodiadau Hamas.
Mae hefyd wedi erfyn ar bobl i adael de Gaza.
Prinder
Mae ysbytai yn Gaza wedi rhoi'r gorau i'r holl wasanaethau heblaw am rai brys wrth i danwydd redeg arall, wedi i Israel atal tanwydd rhag cyrraedd Gaza.
Dywedodd y Cenhedloedd Unedig fod ei asiantaeth ddyngarol yn Gaza yn wynebu prinder tanwydd tebyg yno hefyd, gan ddweud efallai y bydd yn rhaid iddi gau yn yr oriau nesaf.
Mae gweinyddiaeth iechyd Gaza sy'n cael ei rhedeg gan Hamas yn dweud bod bron i 6,500 o bobl wedi cael eu lladd ers ymosodiadau 7 Hydref.
Cafodd mwy na 1,400 eu lladd yn tsrod yr ymosodiadau cychwynnol ar Israel gan Hamas, ac mae mwy na 200 o bobl yn parhau wedi eu dal fel gwystlon yn Gaza.