18 o bobol wedi eu saethu yn farw yn nhalaith Maine yn UDA
Yn ôl adroddiadau o Unol Daleithiau America mae 18 o bobol wedi eu saethu yn farw yn nhalaith Maine.
Mae'r heddlu yn ninas Lewiston wedi rhybuddio bod y person sydd o dan amheuaeth ar ffo.
Mae trigolion yn y ddinas y ogystal â thref gyfagos Lisbon, wedi cael eu cynghori i aros tu fewn gyda'r drysau wedi eu cloi.
Fe wnaeth yr heddlu enwi Robert Card, 40, oedd yn gweithio fel hyfforddwr dryll, fel rhywun o ddiddordeb iddynt gan ddweud ei fod yn cael ei ystyried yn "arfog a pheryglus".
Mae cannoedd o swyddogion heddlu ar hyd y dalaith yn ceisio dod o hyd iddo.
Dywedodd y Tŷ Gwyn fod yr Arlywydd Biden yn ymwybodol o'r sefyllfa ac y byddai'n parhau i dderbyn diweddariadau.
Mae 13 o bobol hefyd wedi'u hanafu.
Ar gau
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Heddlu Lewiston Maine fod yna "saethwr yn Lewiston nad ydyn ni wedi dod o hyd iddo".
Yn ôl yr heddlu, digwyddodd yr ymosodiadau am tua 19:00 nos Fercher mewn bar ac mewn canolfan fowlio, sydd wedi eu lleoli tua phedair milltir i ffwrdd o'i gilydd.
Maent hefyd wedi rhyddhau llun o gerbyd gwyn, gan ofyn i unrhyw un sy'n ei adnabod i gysylltu gyda nhw.
Dywedodd Uwch-arolygydd Ysgolion Cyhoeddus Lewiston, Jake Langlais, y byddai ysgolion yn yr ardal ar gau ddydd Iau.
Bydd nifer o adeiladau eraill ar gael ddydd Iau hefyd, gan gynnwys busnesau.