Newyddion S4C

Gwahardd yr AS Ceidwadol Peter Bone am chwe wythnos o Dŷ’r Cyffredin

25/10/2023
Peter Bone

Mae is-etholiad arall ar y gweill i Rishi Sunak ei amddiffyn ar ôl i’r AS Peter Bone gael ei wahardd am chwe wythnos am fwlio a chamymddwyn rhywiol yn erbyn aelod o staff.

Fe gymeradwyodd Tŷ’r Cyffredin y cam yn erbyn yr aelod seneddol dros Wellingborough, sy’n eistedd fel aelod annibynnol ar ôl colli chwip y Ceidwadwyr, ddydd Mercher.

Bydd deiseb adalw yn cael ei threfnu fydd yn sbarduno isetholiad os caiff ei harwyddo gan 10% o etholwyr yn ei etholaeth yn Sir Northampton.

Mae Mr Bone wedi bod yn AS yn y sedd i'r Ceidwadwyr ers 2005 ac wedi ei chadw yn yr etholiad cyffredinol diwethaf gyda mwyafrif o 18,540.

Mae hynny’n llai na’r mwyafrif yr oedd y Torïaid wedi’u mwynhau yn Tamworth a Chanol Sir Bedford yn 2019, gyda'r ddwy sedd yn disgyn i afael y Blaid Lafur mewn isetholiadau yr wythnos diwethaf.

Canfuwyd bod Mr Bone wedi “cyflawni llawer o weithredoedd amrywiol o fwlio ac un weithred o gamymddwyn rhywiol” yn erbyn aelod o staff yn 2012 a 2013.

Dywedodd yr AS fod yr honiadau’n “ffug ac anwir” a “heb sail” yr wythnos ddiwethaf, ond fe gafodd ei gicio allan o’r blaid seneddol Geidwadol y diwrnod wedyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.