Newyddion S4C

Dirwy i ddyn o Geredigion am waredu dros 3,000 tunnell o wastraff ar ei dir

Gwaredu 3,000 tunnell, Ceredigion

Mae dyn o Geredigion wedi cael ei erlyn gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am ganiatáu i 3,122 tunnell o wastraff gael ei ollwng ar ei dir heb drwydded amgylcheddol.

Bu'n rhaid i John Bray dalu £8,700 ar ôl iddo bledio’n euog i ganiatáu i wastraff o waith adeiladu a dymchwel gael ei ollwng ar ei dir ym Mhwll Wemyss ger Trisant.

Mae hyn yn drosedd o dan y Ddeddf Amddiffyn yr Amgylchedd a gorchmynnwyd i Mr Bray dalu dirwy o £7,000, gordal dioddefwyr o £700 a £1,000 tuag at gostau Cyfoeth Naturiol Cymru am erlyn yr achos.

Fe wnaeth CNC ymweld ag eiddo Mr Bray am y tro cyntaf ym mis Awst 2021 ar ôl derbyn adroddiadau o weithgaredd anghyfreithlon ar y safle.

Ysgrifennodd swyddogion CNC at Mr Bray ar ôl yr ymweliad yn ei hysbysu bod swyddogion wedi mynychu safle Pwll Wemyss a'u bod wedi gweld gwastraff wedi’i waredu heb ganiatâd.

Dywedodd CNC eu bod nhw wedi nodi wrth Mr Bray bod gollwng gwastraff ar dir heb drwydded amgylcheddol yn drosedd ac y byddant yn cynnal ymchwiliad llawn. 

Ychwanegodd eu bod nhw wedi dweud wrtho na ddylai unrhyw wastraff pellach cael ei ollwng na'i losgi yno.

Fe wnaeth ymweliad pellach ym mis Tachwedd 2021 ddarganfod bod mwy o wastraff wedi'i adael ar y safle.

Er fod gan Mr Bray eithriad gwastraff cofrestredig a oedd yn caniatáu iddo ollwng gwastraff addas i'w ddefnyddio mewn gweithgaredd adeiladu, nid oedd unrhyw waith adeiladu'n digwydd.

Fe wnaeth CNC ddarganfod bod Mr Bray yn derbyn deunydd gwastraff gan bobl eraill i'w waredu ar ei dir a’i fod yn derbyn taliadau i dderbyn llawer o’r gwastraff hyn.

'Niwed'

Dywedodd Jeremy Goddard, Arweinydd Tîm Gwastraff a Gorfodaeth CNC yng Nghanolbarth Cymru bod gwaredu ar dir yn gallu cael niwed mawr ar yr amgylchedd.

"Ni ddylai perchnogion tir dderbyn gwastraff gan eraill heb fod y caniatâd cywir.  Dim ond y gweithgareddau a awdurdodir gan drwydded amgylcheddol berthnasol neu eithriad rhag trwyddedu y gallant ymgymryd â hwy.

"Rydym yn cymryd adroddiadau o ollwng gwastraff yn anghyfreithlon o ddifrif gan ei fod yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd lleol ac yn tanseilio gweithredwyr cyfreithlon sy'n cadw at y rheolau.

"Ni fyddwn yn oedi cyn ymchwilio i adroddiadau o reoli gwastraff anghyfreithlon, ac i gymryd camau gorfodi priodol, gan gynnwys erlyniad."

Plediodd Mr Bray yn euog yn Llys Ynadon Aberystwyth ar 19 Medi, a chafodd ei ddedfrydu yn yr un llys ar 19 Hydref 2023.

Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.