Cyhoeddi trefniannau o alawon gwerin Cymreig gan Grace Williams am y tro cyntaf
Bydd casgliad o drefniannau o alawon gwerin gan un o gyfansoddwyr enwocaf Cymru o’r ugeinfed ganrif, Grace Williams, yn cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf erioed.
Mae'r fyfyrwraig Elain Rhys, wedi cyflawni gwaith ymchwil ar gyfraniad Grace Williams i gerddoriaeth Cymru fel rhan o’i chwrs gradd meistr yn Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio Prifysgol Bangor.
Mae bellach wedi derbyn grant bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gyhoeddi’r trefniannau gwerin coll.
Bydd yr alawon coll, yn ogystal â rhai o glasuron adnabyddus eraill Grace Williams, yn cael eu perfformio mewn cyngerdd arbennig yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor nos Wener 3 Tachwedd gan lu o artistiaid gan gynnwys Elain Rhys, Angharad Wyn Jones, Cai Fôn Davies, Glesni Rhys Jones, Steffan Dafydd ac aelodau o Gôr Hŷn Ieuenctid Môn.
Bydd Elain a’i thiwtor, Yr Athro Pwyll ap Siôn, yn rhannu’r gwaith ymchwil wrth gyflwyno’r alawon ar y noson.
Mae Grace Williams (1906-1977) yn cael ei chysylltu yn bennaf â cherddoriaeth gerddorfaol, a rhan o’i gwaith sydd heb dderbyn yr un sylw yw ei threfniannau o alawon gwerin.
Fe wnaeth Ms Williams gyfansoddi nifer o drefniannau o alawon gwerin Cymraeg a Chymreig ar gyfer rhaglenni radio’r BBC yn ystod y 1950au, ond mae nifer yn credu na chafodd y gweithiau hynny sylw teilwng, ac felly prin iawn yw’r enghreifftiau sydd hyd yma wedi eu cyhoeddi, eu recordio a’u darlledu.
Mae Elain, sydd erbyn hyn yn llunio astudiaeth o ‘The Parlour’, unig opera Grace Williams, ar gyfer gradd doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, wrth ei bodd bod yr alawon coll yn cael eu cyhoeddi.
“Mae hi’n fraint o’r mwyaf cael perfformio a chyhoeddi’r gweithiau hyn," meddai.
"Rwy’n falch iawn y bydd rhai o drefniannau hyfryd Grace Williams, a gyfrannodd yn helaeth at dwf a datblygiad cerddoriaeth yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif, yn dod i sylw’r genedl am y tro cyntaf.”
'Dathlu'
Ychwanegodd Elain ei bod hi'n gobeithio y bydd ei hymchwil yn dwyn sylw haeddiannol i gyfansoddwraig na chafodd gydnabyddiaeth deilwng yng Nghymru nac ar Ynysoedd Prydain yn ystod ei hoes.
“Mae’r diffyg cyhoeddiadau ac ymdriniaeth o’r gweithiau hyn yn creu’r camargraff nad oedd gan Grace Williams lawer o amser ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol ei gwlad," meddai.
"Roeddwn yn awyddus iawn i ymchwilio ymhellach i hyn a rhoi sylw i’w harddull leisiol gan geisio torri tir newydd.
Dywedodd Dr Dylan Phillips, Uwch Reolwr Academaidd ac Ysgrifennydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Roedd yn bleser gan y Coleg ariannu’r cynllun arloesol hwn i gyhoeddi gweithiau coll Grace Williams.
“Mae Elain wedi gweithio’n galed i gasglu ynghyd y trefniannau unigryw hyn, ac edrychwn ymlaen at ddathlu ei gwaith ymchwil a chlywed yr alawon arbennig yn y cyngerdd.”