Newyddion S4C

Teulu nyrs fu farw mewn gwrthdrawiad yn dweud bod galwadau diogelwch ffyrdd yn cael eu 'hanwybyddu'

25/10/2023
Protest Wyllie Bends / Marwolaeth Laurie Jones

Mae tad-cu nyrs ifanc a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerffili wedi dweud bod galwadau ei deulu am rwystr diogelwch ar ochr y ffordd wedi cael eu “hanwybyddu” a’u “hesgeuluso”.

Bu farw Laurie Jones pan oedd hi'n teithio adref o'i gwaith yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2019 ar ran o ffordd y B4251 sy'n cael ei hadnabod fel Wyllie Bends.

Mae ei theulu wedi bod yn galw am rwystr diogelwch ger y ffordd, ond nid yw hynny wedi cael ei gynnwys yn rhan o fesurau Cyngor Caerffili i wella diogelwch y ffyrdd. 

Image
Laurie Jones
Bu farw Laurie Jones yn oriau man y bore. Llun: Jo Jones

Mewn cyfarfod yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth cabinet Cyngor Caerffili gymeradwyo cyfres o fesurau i wella diogelwch ffyrdd, ond doedd dim cyfeiriad at gynnwys y rhwystr diogelwch yn y fan lle be farw Laurie Jones. 

Dywedodd tad-cu Laurie, Leighton Reardon, wrth y Gwasanaeth Adrodd ar Ddemocratiaeth Leol (LDRS) fod cael yr awdurdodau i wrando ar geisiadau ei deulu wedi bod “fel siarad â wal”.

Cofnododd cwest i farwolaeth Laurie iddi foddi ar ôl i’w char blymio i’r afon wrth ymyl y B4251, lle’r oedd lefel y dŵr yn uchel oherwydd glaw trwm.

Yn y pedair blynedd ers hynny, mae ei theulu wedi ymgyrchu i osod rhwystr ar ochr y ffordd i amddiffyn gyrwyr eraill rhag plymio i'r afon, a hefyd i oleuadau stryd gael eu goleuo yno drwy'r nos.

Ond ni chafodd un o'r mesurau hyn eu cynnwys yn argymhellion adolygiad ffyrdd annibynnol a gyflwynwyd i gabinet y cyngor yr wythnos ddiwethaf.

Nid oedd yr adolygiad hwnnw “wedi nodi unrhyw faterion diogelwch ffyrdd mawr” ar y darn hynny o'r ffordd.

Gostyngodd Cyngor Caerffili y terfyn cyflymder ar droeon Wyllie o 60mya i 40mya yn dilyn adolygiad cychwynnol ar ôl marwolaeth Laurie, a gosododd y cyngor ffens ger yr afon hefyd.

Ond mae teulu Laurie Jones yn dweud bod y ffens honno’n annigonol, ac mewn protest ym mis Tachwedd 2022, gorymdeithiodd Mr Reardon gydag arwydd a oedd yn darllen: “Ffens wan gan gyngor gwan.”

Image
Protest Wyllie Bends
Nifer yn protestio dros osod rhwystr diogelwch ar Wyllie Bends

Wrth siarad â’r LDRS, dywedodd ei fod yn teimlo y dylid bod wedi gwrando ar ei alwadau parhaus am rwystr diogelwch.

“O’r diwrnod cyntaf does ganddyn nhw ddim bwriad i roi dim byd yno,” meddai.

“Gofynnais iddyn nhw osod cerrig mawr neu byst dur. Dywedodd y cyngor ‘ni allwn wneud hynny oherwydd byddai [cerbydau] yn bownsio i ffwrdd’.

“Mae’r ddwy ddamwain angheuol ddiwethaf wedi bod ar y troadau, ac mae’r afon islaw iddi.”

“Dyma ein dadl ni o’r dechrau – y ddau fater diogelwch – ac maen nhw wedi cael eu hanwybyddu.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerffili fod “asesiad diogelwch ffyrdd annibynnol wedi’i gynnal ar y safle hwn a bod yr holl argymhellion ar gyfer gwelliannau wedi’u gweithredu gan y cyngor”.

Hoffai’r cyngor “fynegi ein diolch i’r teulu am eu mewnbwn i’r trafodaethau yn ystod y broses hon”, ychwanegodd y llefarydd.

“Er nad oedd argymhelliad i osod ffensys, fe wnaeth yr awdurdod y penderfyniad hefyd i osod hwn fel mesur ychwanegol.

“Mae'r ffens dan sylw yn ffens ffin priffordd safonol a ddefnyddir yn gyffredin ledled y wlad mewn achosion tebyg.

“Mae cabinet y cyngor hefyd wedi cytuno’n ddiweddar ar nifer o waith ychwanegol arall ar y safle i wella diogelwch ffyrdd, gan gynnwys gwell arwyddion a marciau ffordd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.