Dedfryd oes i ddyn am lofruddio ei gariad tra ar fechnïaeth
Mae dyn a lofruddiodd ei gariad ychydig wythnosau ar ôl cael ei ryddhau ar fechnïaeth i'w chartref yn Stirling yn yr Alban wedi cael ei garcharu am isafswm o 23 mlynedd.
Fe wnaeth Christopher McGowan, 28, grogi Claire Inglis, 28, cyn ei llosgi a gwthio cadach gwlyb i lawr ei gwddf.
Roedd Ms Inglis, oedd yn fam i un, wedi bod mewn perthynas â McGowan am wyth wythnos yn unig pan y gwnaeth ei llofruddio.
Dywedodd y Barnwr Michael O'Grady fod gweithredoedd McGowan "y tu hwnt o farbaraidd".
"Doedd hi ddim yn anodd i bortreadu creulondeb yr hyn wnaethoch chi i hi. Dydych chi heb ddangos unrhyw emosiwn nac edifeirwch," meddai.
Roedd teulu Ms Inglis, a fynychodd yr achos bob diwrnod, yn bresennol yn yr Uchel Lys yng Nghaeredin ar gyfer y dedfrydu.
Roedd gan McGowan 40 euogfarn blaenorol, gan gynnwys tri am ymosod. Roedd ar bum gorchymyn mechnïaeth pan lofruddiodd Ms Inglis.
Roedd McGowan wedi honni i ddechrau ei fod wedi bod yn ceisio amddiffyn ei hun, ond fe gafodd yr honiad yma ei dynnu yn ôl yn ystod yr achos.
Fe wnaeth honni hefyd fod Ms Inglis wedi disgyn i lawr grisiau ei fflat, yn ogystal â dweud ei bod wedi cymryd gorddos ar Valium ac ei fod wedi ceisio achub ei bywyd.
Cafodd Ms Inglis 76 o anafiadau yn ystod yr ymosodiadau, gan gynnwys rhai difrifol i'w hwyneb a'i phen.