Newyddion S4C

Pennaeth y Cenhedloedd Unedig yn poeni bod cyfreithiau rhyngwladol yn cael eu torri yn Gaza

Pennaeth y Cenhedloedd Unedig yn poeni bod cyfreithiau rhyngwladol yn cael eu torri yn Gaza

Mae pennaeth y Cenhedloedd Unedig wedi dweud ei fod wir yn poeni am y sefyllfa yn Gaza gan ychwanegu fod cyfreithiau rhyngwladol dyngarol yn cael eu torri yno.

Mae Antonio Guterres wedi beirniadu'r bomio yn ne Gaza ar ôl i Israel orchymyn i Balesteiniaid adael eu cartrefi. 

"Gadewch i fi fod yn glir," meddai. 

"Does yr un ochr mewn brwydr arfog goruwch cyfreithiau dyngarol rhyngwladol."

Awgrymodd hefyd nad oedd ymosodiad Hamas ar Israel ar 7 Hydref yn weithred a oedd yn ymateb i un digwyddiad penodol ar ran yr Israeliaid. 

Ond wnaeth e ddim crybwyll enw Israel na Hamas yn ei sylwadau.   

Mae diplomyddion Israelaidd wedi ymateb yn chwyrn i sylwadau Mr Guterres, gyda llysgennad Israel i'r Cenhedloedd Unedig yn galw arno i ymddiswyddo.

 Mae'r Israeliaid yn dadlau eu bod yn targedu safleoedd Hamas yn unig a hynny mewn ymateb i'w hymosodiad nhw ar ŵyl yn Israel ar 7 Hydref a laddodd mwy na 1,400 o bobl.

Mae mwy na 200 o Israeliaid yn cael eu cadw'n wystlon gan Hamas yn Gaza. Hyd yn hyn, mae pedwar ohonyn nhw wedi eu rhyddhau.  

Mae Israel wedi parhau i fomio Gaza, gyda'r weinyddiaeth iechyd sy'n cael ei rhedeg gan Hamas yn dweud bod bron i 5,800 o bobl wedi eu lladd yno ers 7 Hydref.   

Yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf, mae tua 1.4 miliwn o Balesteiniaid ar Lain Gaza wedi ffoi o'u cartrefi.  

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C ddydd Mawrth, dywedodd Hadeel Qazzaz sydd yn gweithio i elusen Oxfam: "Cafodd ein pobl drws nesa ni ein bomio neithiwr, ac mae 25 o bobl o dan y rwbel felly dydyn ni ddim yn gwybod beth ddigwyddodd ac os ydym ni am ddarganfod rhywun yn fyw."

Fe guddiodd Shlevet Ademolla, sydd yn byw yn ninas Sderot sydd ychydig filltiroedd yn unig o'r ffin gyda Gaza, gyda'i theulu am 25 awr yn sgil y gyflafan, a dywedodd: "Dywedais wrth fy ngŵr bod yna rywbeth drwg yn digwydd.

Gyda rocedi Gaza gerllaw yn bygwth, dim ond rhai sydd wedi penderfynu aros yn y ddinas.

Wrth ddweud pam ei bod hi yn parhau yn Sderot, dywedodd Ms Ademolla: "Oherwydd fy mod i'n credu mewn Duw. Dwi'n credu mewn heddwch ac bod rhywbeth yn bosib er mwyn sicrhau bod pawb mewn heddwch."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.