Newyddion S4C

'Dim ffrindiau ydyn nhw, ond dau fab arall': Hanes teulu Josh Navidi ar Gwesty Aduniad

25/10/2023
hedi navidi.png

"Nid ffrindiau ydyn nhw, ond dau fab arall."

Dyna eiriau Hedy Navidi, tad cyn-chwaraewr rygbi Cymru a Chaerdydd Josh Navidi, a deithiodd i Gymru 40 mlynedd yn ôl wedi iddo adael ei wlad frodorol, Iran. 

Symudodd teulu Josh Navidi o Iran i Gymru yn sgil Chwyldro Islamaidd Iran yn 1979, gan aros gyda dau frawd, Steffan a Daniel Hughes, a'u rhieni, ym Mhontypridd. 

Digwyddodd Chwyldro Islamaiadd Iran ym 1979, pan drawsnewidiodd Iran o fod yn frenhiniaeth o dan y Shah (Brenin) Mohammad Reza Pahlavi i fod yn weriniaeth Islamaidd o dan yr Ayatollah Ruhollah Khomeini.

Cafodd Steffan a Daniel Hughes aduniad gyda Hedy Navidi ar raglen Gwesty Aduniad a gafodd ei darlledu ar S4C nos Fawrth. 

Image
Gwesty Aduniad Hedy Navidi
Steffan a Daniel Hughes ac Hedy Navidi.

Wrth siarad ar y rhaglen, dywedodd Steffan: "Dwi wedi bod yn dilyn rygbi drwy gydol fy mywyd ac yn meddwl bod Josh Navidi yn chwaraewyr gwych. Yna fe wnes i sylwi fod ei dad wedi bod yn byw gyda ni tra'n blant, oedd yn rywbeth eithaf cyffrous!"

Ychwanegodd ei frawd, Daniel: "Roedd Mam a Dad yn glên iawn gyda phobl oedd yn dod o dramor. Fe wnaeth pobl o Kenya a Nigeria aros gyda ni am gyfnod, felly cawsom ni ein magu gyda llawer o bobl o dramor yn dod i'n gweld ni yn aml.

"Darllenais erthygl ar-lein am Josh Navidi, y chwaraewr rygbi, ac roedd yn siarad am ei dad, Hedy, a oedd yn reslo ac a ddaeth i Gymru o Iran. Meddyliais yn syth mai yr un person oedd hwn.

"Daeth Hedy i Gymru tua'r amser pan y gwnaeth yr Ayatollah Ruhollah Khomeini ddechrau rheoli Iran; roedd yn ystod y chwyldro Islamaidd felly efallai bod cysylltiad gyda pham y symudodd."

'Wrth ein boddau'

Yn ôl Daniel, roedd Hedy yn gymeriad mawr. 

"Roedd yn gawr clên. Roedd yn rhan o'r teulu pan symudodd yma. Roedd pobl yn aros gyda ni o dro i'w gilydd ac roedden nhw'n aros i fyny'r grisiau - doeddem ni byth yn eu gweld," meddai. 

Ychwanegodd Steffan: "O'r holl bobl sydd wedi aros gyda ni, Hedy ydy'r un sy'n sefyll allan - a byddem ni wrth ein boddau yn eistedd lawr gydag e er mwyn dal i fyny. Dydyn ni ddim wedi ei weld ers 40 mlynedd, ac mae ein tad wedi marw erbyn hyn."

Yn ôl Daniel, dyma'r amser cywir i'w gyfarfod. 

"Dwi eisiau darganfod mwy am beth ddigwyddodd pan yr oeddwn i'n blentyn. Mae Dad wedi marw erbyn hyn a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i Hedy wybod am hynny. Bydd yn arbennig cael cofio yn ôl am yr hen ddyddiau da yn blant," meddai.

'Ail gartref'

Dywedodd Hedy: "Daeth Cymru yn ail gartref i mi.

"Pan gafodd fy mhlant i eu geni yma, dywedais i wrth fy ngwraig mai Cymry ydyn nhw.

"Roedd eu gweld nhw eto yn wych, daeth â'r atgofion yn ôl yn syth. Mae hi'n fraint i mi eich bod chi yn fy nghofio. Dim ffrindiau ydyn nhw, ond dau fab arall."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.