World Rugby yn cyhoeddi 'newidiadau sylweddol' i rygbi rhyngwladol
World Rugby yn cyhoeddi 'newidiadau sylweddol' i rygbi rhyngwladol
Mae World Rugby wedi cyhoeddi "newidiadau sylweddol" ym maes rygbi rhyngwladol sydd yn cynnwys cystadleuaeth newydd a fydd yn dechrau yn 2026.
Bydd y gystadleuaeth newydd yn cynnwys 24 tîm, wedi’u rhannu i ddwy adran, gyda 12 tîm ym mhob un.
Bydd timoedd yn gallu codi a disgyn i'r adrannau o 2030 ymlaen
Bydd yr adran uchaf yn cynnwys y chwe thîm o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad a'r Bencampwriaeth Rygbi, ynghyd â dau arall sydd heb eu henwi eto.
Fe fydd y gystadleuaeth newydd yn cael ei chwarae ym mis Gorffennaf a mis Tachwedd, gan ddisodli ffenestri rhyngwladol presennol yr haf a’r hydref.
Newid arall sydd wedi ei gyhoeddi yw y bydd Cwpan y Byd hefyd yn cael ei ehangu i 24 tîm o 2027, gan olygu bydd pedwar tîm yn cael eu hychwanegu.
Mae yna newidiadau hefyd yng ngêm y menywod a fydd yn golygu na fydd gemau rhyngwladol yn cael eu cynnal yr un pryd â gemau clwb.
'Arwyddocaol'
Mae Cadeirydd World Rugby, Syr Bill Beaumont wedi disgrifio'r newidiadau fel y rhai mwyaf arwyddocaol ers rhai blynyddoedd.
"Cytundeb ar galendrau byd-eang dynion a merched yw'r datblygiad mwyaf arwyddocaol yn y gamp ers i'r gêm fynd yn broffesiynol," meddai
“Mae’n foment hanesyddol i’n camp sy’n ein paratoi ar y cyd ar gyfer llwyddiant.
“Rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at gyfnod newydd cyffrous yn dechrau yn 2026. Cyfnod a fydd yn dod â sicrwydd a chyfle i bawb."
Cafodd y newidiadau eu cyhoeddi ychydig ddyddiau cyn rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd rhwng De Affrica a Seland Newydd.