Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi canllawiau i fynd i'r afael â diffyg presenoldeb mewn ysgolion
Mae'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles wedi cyhoeddi canllawiau newydd i helpu ysgolion i weithio gyda theuluoedd ac asiantaethau perthnasol i sicrhau bod disgyblion yn mynd i'r ysgol.
Daw'r canllawiau newydd yn sgil pryderon bod disgyblion ysgol yn colli mwy o wersi ers y pandemig.
Dywedodd y gweinidog addysg bod hwn yn bryder mawr sydd yn gallu cael effaith ar sgiliau pobl ifanc.
"Ers y pandemig, mae gormod o bobl ifanc yn colli allan ar amser amhrisiadwy yn yr ysgol," meddai.
"Gall hyn effeithio ar eu lles, eu sgiliau cymdeithasol a'u haddysg. Does dim amheuaeth bod ein system addysg yn dal i wella ar ôl effaith y pandemig. Mae ysgolion wedi bod yn gweithio'n galed i gefnogi dysgwyr yn ôl i'r ystafell ddosbarth, ond mae hwn yn argyfwng sydd angen dull gweithredu cenedlaethol.
"Dyma fy mhrif flaenoriaeth."
Beth sy'n newid?
Er mwyn ceisio atal disgyblion rhag colli ysgol, bydd Llywodraeth Cymru yn newid y diffiniad ystadegol o absenoldeb parhaus.
Bydd hwn yn newid o 20% o sesiynau ysgol i 10% mewn ymgais i "gydanbod absenoldeb yn gynnar."
Mae'r canllawiau hefyd yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddirwyon, sef y dylid eu defnyddio fel dewis olaf yn unig.
Dylid rhoi rhybudd yn y lle cyntaf a dylai ysgolion hefyd ystyried a fyddai dirwy yn effeithiol wrth gael plentyn yn ôl i'r ysgol, meddai Llywodraeth Cymru.
Ychwanegodd Mr Miles bod angen mynd i'r afael â materion eraill fel iechyd meddwl a meithrin perthynas gyda theuluoedd.
"Yn aml, mae materion presenoldeb yn symptom o achos sylfaenol ar wahân i iechyd corfforol, fel lles neu broblemau iechyd meddwl," meddai.
"Mae meithrin perthynas dda gyda theuluoedd ac asiantaethau cymorth yn allweddol.
"Bydd presenoldeb yn gwella os yw dysgwyr am ddod i'r ysgol ac yn gweld dysgu a gweithgareddau yn ddiddorol a pherthnasol. Mae'r canllawiau newydd yn canolbwyntio ar y dysgwyr, gan bwysleisio pwysigrwydd ceisio barn plant a rhieni ar ddatblygu a gweithredu polisïau ysgolion.
“Drwy weithio gyda'n gilydd gallwn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd ac yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu potensial."