Ymgyrch achub yng nghanol Caerdydd wedi adroddiadau fod person yn Afon Taf
Ymgyrch achub yng nghanol Caerdydd wedi adroddiadau fod person yn Afon Taf
Mae'r gwasanaethau brys yn cynnal ymgyrch achub yng nghanol Caerdydd fore dydd Mawrth wedi adroddiadau fod person yn Afon Taf.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod nhw wedi cael eu galw i'r lleoliad toc cyn 08:00.
Mewn datganiad dywedodd y gwasanaeth: "Oddeutu 7:49am ddydd Mawrth 24 Hydref 2023, derbyniodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru alwadau i achub person o ddŵr ar Bont Heol Wood, Caerdydd.
"Mae nifer o griwiau yn bresennol, ochr yn ochr â chydweithwyr gwasanaethau brys eraill."
Mae Heddlu'r De yn bresennol yno hefyd ac yn cynghori modurwyr i osgoi'r ardal a bod disgwyl oedi.
Mae bysiau sydd yn teithio trwy Stryd Wood wedi cael ei dargyfeirio i osgoi'r ardal.