Y Swyddfa Dramor i 'barhau i weithio' i ryddhau mwy o wystlon o Gaza
Mae’r Swyddfa Dramor wedi dweud y bydd ei swyddogion yn “parhau i weithio’n ddiflino” i sicrhau bod mwy o wystlon yn cael eu rhyddhau ar ôl i ddinesydd Prydeinig gadarnhau bod ei mam wedi cael ei rhyddhau gan Hamas.
Disgrifiodd Sharone Lifschitz ei rhyddhad o glywed bod ei mam Yocheved Lifshitz wedi cael ei throsglwyddo gan Hamas o Gaza, ynghyd â chyd-ddinesydd Israelaidd Nurit Cooper, nos Lun.
Dywedodd merch Ms Lifshitz o Lundain y byddai'n parhau i ymgyrchu dros ryddhau ei thad a gwystlon eraill gafodd eu cipio gan Hamas yn ystod eu cyrchoedd gwaedlyd yn Israel ar 7 Hydref.
Dywedodd Sharone Lifschitz wrth y BBC ddydd Mawrth fod ei mam “yn ymddangos yn iawn”.
“Mae hi’n sharp iawn ac yn awyddus iawn i rannu’r wybodaeth, trosglwyddo’r wybodaeth i deuluoedd gwystlon eraill yr oedd hi gyda nhw.”
Dywedodd y Swyddfa Dramor ei bod yn croesawu rhyddhau dau wystl arall dridiau ar ôl i fenyw Americanaidd a'i merch yn ei harddegau gael eu rhyddhau.
Dywedodd llefarydd: “Mae ein meddyliau’n parhau gyda theuluoedd anwyliaid sy’n dal i gael eu dal yn gaeth, wrth iddyn nhw ddioddef ing a phryder ar hyn o bryd.
“Byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino gyda Qatar, Israel ac eraill i sicrhau bod pob gwystl yn dod adref yn ddiogel.”
Fe fu Qatar a’r Aifft yn cydlynu er mwyn rhyddhau’r gwystlon Nurit Yitzhak a Yocheved Lifshitz, ar sail rhesymau dyngarol ac iechyd.
Daeth cadarnhad gan y Groes Goch Ryngwladol o'r datblygiad diweddaraf mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol nos Lun.
Yn ôl adroddiadau mae 220 o bobl yn cael eu dal yn wystlon gan Hamas yn Gaza.