Bobi, ci hynaf y byd, wedi marw yn 31 oed
Mae ci hynaf y byd, Bobi, wedi marw yn 31 oed a 165 diwrnod.
Fe wnaeth y ci o Bortiwgal dorri'r record am fod y ci hynaf yn y byd, yn ôl cofnodion y Guinness World Records ym mis Chwefror eleni.
Bluey o Awstralia oedd y ci hynaf blaenorol, ac roedd yn 29 mlynedd a phum mis oed.
Cafodd ei farwolaeth ei chyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Llun gan filfeddyg a welodd Bobi ar sawl achlysur.
Roedd Bobi i fod i gael ei ddifa pan yn gi bach gyda gweddill ei frodyr a'i chwiorydd, ond fe wnaeth ei berchennog presennol, Leonel Costa, lwyddo i guddio Bobi a'i groesawu yn rhan o'r teulu.
Heblaw am gyfnod o salwch yn 2018, dywedodd Mr Costa ym mis Chwefror eleni fod Bobi wedi mwynhau bywyd a oedd yn gymharol ddi-drafferth, ac fe wnaeth awgrymu mai un rheswm am hyn oedd yr "amgylchedd heddychlon" y cafodd ei fagu ynddo.
Dywedodd hefyd ei fod yn "gymdeithasol iawn" ac yn treulio llawer o amser gydag anifeiliaid gwahanol.
Ond dywedodd fod Bobi wedi bod yn cael trafferthion wrth gerdded ac roedd ei olwg wedi gwaethygu cyn ei farwolaeth.
Roedd Mr Costa hefyd yn berchen ar sawl ci arall, gan gynnwys mam Bobi, a wnaeth fyw tan yn 18 oed y ogystal â chi arall a fu farw yn 22 oed.