Newyddion S4C

Ffermwyr llaeth yn wynebu ‘storm berffaith’ medd undeb amaethyddol

Ffermwyr llaeth yn wynebu ‘storm berffaith’ medd undeb amaethyddol

Ar ddiwrnod Sioe Laeth Cymru yng Nghaerfyrddin, mae Undeb NFU Cymru yn rhybuddio bod ffermwyr llaeth yn wynebu dyfodol ansicr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r diwydiant. 

Mae amgylchiadau heriol y farchnad wedi achosi i brisiau llaeth ostwng 30% ar gyfartaledd ers dechrau’r flwyddyn, yn ôl yr undeb.  

Mae NFU Cymru yn dweud bod ffermwyr yn derbyn 15c yn llai am bob litr o laeth o gymharu â chyfnod y Nadolig y llynedd, gyda sawl ffermwr yn derbyn prisiau am eu llaeth sy’n llai na chost cynhyrchu

Mae nifer o ffermwr wedi son wrth yr undeb bod cynlluniau presennol Llywodraeth Cymru – gan gynnwys cynlluniau plannu coed - yn debygol o gyfyngu ar gynhyrchiant llaeth. 

Mae hynny yn ei gwneud hi’n amhosib i ffermwyr ymrwymo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, medd yr Undeb.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn dadlau eu bod yn buddsoddi yn helaeth yn y sector ac yn pwysleisio bod cynlluniau plannu coed yn un elfen o'r cynllun ffermio cynaliadwy.  

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "Y prif fygythiad i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yw newid hinsawdd, ac mae plannu coed yn un o nifer o fesurau y gall ffermwyr eu cymryd i chwarae eu rhan i sicrhau dyfodol cynaliadwy."

Ond yn ôl Cadeirydd NFU Cymru, Aled Jones: “Mae ffermwyr llaeth Cymru yn wynebu’r storm berffaith” mae’r diwydiant yn rhedeg ar sail ‘gobeithio fydd pethau’n gwella’ ac mae’r tanc yn goch. 

“Nid dyma’r ffordd iawn i redeg diwydiant. Mae’n edrych fel bod pob rhan arall o’r gadwyn fwyd yn pasio’r colledion i’r cynhyrchwyr, ac unwaith eto y ffermwyr sy’n wynebu’r risgiau. 

“Mae ffermio yn fusnes hir-dymor, ond nid yw’r marchnadoedd yn rhoi’r hyder i’n ffermwyr ni i wneud y penderfyniadau sy’n eu galluogi nhw i symud eu busnesau yn eu blaen. 

Mae cynhyrchu llaeth yng Nghymru yn werth bron i £850 miliwn i economi Cymru, ac yn cyfrif am bron i 40% o allbwn gros cynhyrchiant amaethyddol Cymru.

Mae mwy na 5,300 o bobl yn gweithio yn y diwydiant llaeth, yn eu plith Jâms Morgan sy'n ffermio ym mhentref Llandre yng ngogledd Ceredigion. Mae e o'r farn bod y diwydiant wedi dirywio dros y deuddeg mis diwethaf : “Dwi wedi colli 33% o pris llaeth fi ers y llynedd. Mae hwn yn gwymp sylweddol. 

"Ma prisie pethau i brynu wedi cwympo chydig bach ond dim i gymharu â beth ma' pris llaeth wedi cwympo. Ma pris llafur wedi mynd lan. Ma pris gwrtaith wedi cwympo ond ma' dal yn uchel i gymharu â blynyddoedd cynt. 

"Ma' pris olew wedi codi a egni lan. Ma' pris trydan a 'da ni wedi clymu mewn i pris plan llynedd a ma hwnnw yn uchel felly ma holl bethe yn rhoi pwysau arno ni ar faint ma’n costio i ni gynhyrchu.”

Dywedodd Jonathan Wilkinson, Cadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Cymru: “Gyda phoblogaeth y byd yn cynyddu a’r galw am gynnyrch llaeth, mae ffermwyr llaeth Cymru mewn safle da i gyflenwi defnyddwyr ar draws y byd. 

“Er hyn, mae’r ansicrwydd a’r ddiffyg hyder yn ein sector yn herio gwytnwch y ffermwyr. 

“Mae’r Gweinidog Materion Gwledig wedi ymrwymo i bolisi amaethyddol yng Nghymru ar gyfer pob ffermwr ond rhaid i hwn gynnwys ffermwyr llaeth hefyd. 

“Rwy’n annog y Gweinidog i weithio gyda NFU Cymru i wrando ar ddiwydiant llaeth Cymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi ein ffermwyr a'n cymunedau gwledig i sicrhau dyfodol cynaliadwy. 

"Er enghraifft, rydym wedi blaenoriaethu cyllideb Cynllun y Taliad Sylfaenol 2023, sy'n parhau i fod yn £238m ac sy'n gwneud taliadau ymlaen llaw fel arfer, gyda mwy na £158m yn cael ei dalu i dros15,600 o fusnesau fferm ers 12 Hydref 2023. 

"Mae camau gweithredu i gefnogi cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gwella bioamrywiaeth, a chryfhau'r economi wledig yn rhan o gynigion i ddylunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys meincnodi, profi pridd a gwella iechyd da byw a all wella perfformiad busnesau yn ogystal â lleihau costau ac allyriadau carbon.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.