Rhod Gilbert wedi cael ei sgan canser clir cyntaf
Mae'r digrifwr Rhod Gilbert wedi cael ei sgan canser clir cyntaf, ar ôl triniaeth.
Cyhoeddodd y cyflwynydd teledu a radio ym mis Gorffennaf y llynedd ei fod yn cael triniaeth yng Nghanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd, lle mae hefyd yn un o noddwyr y ganolfan.
Dywedodd y cyflwynydd wrth y Radio Times mai'r profiad o ddarganfod nad oedd y canser wedi lledaenu oedd "diwrnod gorau fy mywyd".
"Wedi i mi ddychwelyd i deithio ar draws y wlad gyda fy ngwaith yn gynharach eleni, fe ges i alwad i ddweud fod fy sgan diweddaraf yn dangos fod y canser yn yr ardaloedd yr oeddent yn ymwybodol ohonynt, ond nad oedd yn fy ysgyfaint nac yn fy ymennydd," meddai.
Yn ddiweddarach, cafodd ei sgan clir cyntaf, a dywedodd: "Y peth gorau oedd fod y tiwmor wedi mynd."
Ychydig ddyddiau cyn iddo ddechrau ei driniaeth, fe gysylltodd Rhod Gilbert â thîm rhaglen ddogfen er mwyn ffilmio ei brofiad.
"Roeddwn i'n gorwedd yn y gwely ar y dydd Gwener, ac roedd fy nhriniaeth i fod i ddechrau ar y dydd Llun canlynol," meddai.
"Roedd yn rhannol ar gyfer fi fy hun - roeddwn i wedi canslo fy holl waith teledu a fy nheithiau, ac roeddwn i eisiau cael rhywbeth heblaw am 'ganser' yn fy nyddiadur.
"Roeddwn i'n gwybod na fyddwn i ddigon da i fod ar lwyfan neu ar deledu, ond fe wnes i feddwl efallai y byddwn i'n ddigon da i orwedd mewn gwely a siarad gyda'r tîm rhaglen ddogfen am pa mor sal oeddwn i.
"Meddyliais, 'byddai'n rhoi rhywbeth i mi wneud'."
Ychwanegodd Gilbert ei fod wedi darganfod tiwmor ar ei wddf ar ddiwrnod taith gerdded i godi arian ar gyfer Canolfan Ganser Felindre, ac roedd y misoedd canlynol o driniaeth yn golygu nad oedd yn "ddigon da hyd yn oed i ddarllen neu wylio teledu."