Rhybudd am lifogydd ar gyfer rhai o siroedd Cymru nos Lun
23/10/2023
Gallai glaw trwm achosi llifogydd mewn ambell ardal benodol nos Lun, a hynny'n bennaf yn siroedd Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Castell-nedd ac Abertawe.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn a fydd mewn grym rhwng 17:00 a 23:59 nos Lun.
Mae rhybudd melyn yn golygu y gallai fod yna lifogydd ar ffyrdd, gallai effeithio ar wasanaethau bws a thren, ac mae llifogydd mewn ambell gartref a safle busnes yn bosibl.
Mae'n bosibl hefyd y gallai'r glaw effeithio ar gyflenwadau trydan a gwasanaethau eraill.