Newyddion S4C

Geraint Thomas yn arwyddo cytundeb newydd gydag INEOS Grenadiers

23/10/2023
Geraint Thomas

Mae Geraint Thomas wedi arwyddo cytundeb newydd gydag Ineos Grenadiers. 

Bydd Thomas yn ymestyn ei gyfnod gyda'r tîm, gan arwyddo cytundeb newydd dwy flynedd a fydd yn parhau tan 2025.

Mae'r cyn-enillydd Tour de France yn un o seiclwyr amlycaf Ineos Grenadiers dros y blynyddoedd diwethaf, a daeth yn ail yn y Giro d'Italia ym mis Mai eleni.

Cyrhaeddodd y trydydd safle yn y Tour de France yn 2022 ac er na chafodd unrhyw lwc yn y Vuelta a España eleni, mae Thomas yn parhau yn ffigwr pwysig o fewn y tîm Prydeinig. 

Wrth siarad am ei gytundeb newydd, dywedodd Thomas: "Dwi wrth fy modd fy mod i'n gallu ymestyn fy amser fel seiclwr Ineos Grenadier. Dwi dal yn caru seiclo - rasio a hyfforddi gyda'r bechgyn, pob un agwedd."

Ond fe wnaeth Thomas sydd yn 37 oed hefyd awgrymu mai dyma fyddai ei gytundeb olaf. 

"Yn fy mhen i, dyma fydd fy nghytundeb olaf i - ond dwi'n gwybod fod gen i ddwy flynedd fawr ynof. A fyddwn i ddim wedi parhau mewn tîm gwahanol.

"Mae'r tîm yn fy neall i, ac yn fwy pwysig na hynny, mae'r tîm yn gwybod beth mae angen ei wneud i lwyddo."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.