Nile Rodgers a Jess Glynne i berfformio yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen
Bydd Nile Rodgers a’i fand enwog Chic yn perfformio yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen y flwyddyn nesaf.
Daeth cyhoeddiad fore Llun gan drefnwyr yr wŷl y byddai’r gitarydd byd enwog yn cloi’r arlwy ym mhafiliwn yr Eisteddfod ar nos Iau 11 Gorffennaf, tra bydd y gantores Jess Glynne hefyd yn perfformio ar nos Wener 12 Gorffennaf.
Bydd Sophie Ellis Bextor a’r band Deco hefyd yn perfformio'r un noson â Chic.
Dywedodd Sarah Ecob, Cadeirydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen: “Mae Jess Glynne a Nile Rodgers & Chic yn sêr rhyngwladol sydd ar dop eu gêm. Ni allwn ddisgwyl i’w gweld yn perfformio yn Llangollen ar gyfer ein gwŷl heddwch gwych.”
Mae’r wŷl eisoes wedi cyhoeddi bod y bandiau Manic Street Preachers a Suede, a’r gantores Paloma Faith yn perfformio yn yr ŵyl yn 2024.
Mae’r cyngherddau gan fandiau pop a roc poblogaidd wedi eu trefnu yn sgil partneriaeth newydd gyda chwmni hyrwyddo cerddoriaeth, Cuffe and Taylor.