Newyddion S4C

'Yr arwr mawr': Y diwrnod y daeth Bobby Charlton i chwarae yn Nyffryn Nantlle

23/10/2023
BCBBC

Mae sawl enw mawr wedi cicio pêl ar gae Maes Dulyn dros y degawdau – ond fe wnaeth ymddangosiad gan y diweddar Syr Bobby Charlton greu cynnwrf arbennig yn Nyffryn Nantlle un diwrnod yn 1976.

Bu farw Syr Bobby yn 86 oed ddydd Sadwrn, ac mae teyrngedau lu wedi eu rhoi iddo.

Ac yntau'n un o enwogion mwyaf pêl-droed Lloegr a Manchester United ar ganol y 70au, deth i Benygroes fel rhan o dîm o sêr i chwarae mewn gêm bêl-droed arbennig yn erbyn Clwb Pêl-droed Nantlle Vale.

Hefyd ymhlith y sêr a wnaeth y daith i ogledd orllewin Cymru roedd cyd-chwaraewyr Syr Bobby yn nhîm buddugol Lloegr yng Nghwpan y Byd 1966, y golwr Gordon Banks a’r asgellwr George Eastham.

Daeth ‘tyrfa eiddgar’ o 1,500 o bobl i wylio’r gêm ar y diwrnod yn ôl adroddiad newyddion o'r diwrnod, ac ni chafodd y dorf ei siomi.

Ac yntau’n 39 mlwydd oed ar y pryd ac yn dal i chwarae, fe gafwyd perfformiad meistrolgar gan Bobby Charlton, wrth iddo sgorio naw o goliau.

“Dyma binacl hanes pêl-droed yn y Dyffryn,” meddai gohebydd oedd yno yn gwylio’r gêm.

“Fe ddaeth ryw fil a hanner i faes Dulyn i weld hen bennau yn dangos eu dawn. Ac fe roedd ‘na ddigon o ddawn.

“Yr arwr mawr, yn amlwg, oedd Bobby Charlton. Ac wedi plesio tyrfaoedd ledled y byd ac ennill pob clod posib yn y gêm broffesiynol, daeth i Ddyffryn Nantlle, a’r dorf yn un llais o gefnogaeth iddo. Ac yn wir, profodd fod ei gic mul yr un mor gadarn ag erioed.”

Ar ôl ennill o 11 gôl i wyth, fe arhosodd y sêr am bryd o fwyd a ‘chlec a chlonc’ yn y clwb cymdeithasol lleol, gyda’r cefnogwyr yn mwynhau’r cyfle i fod yng nghwmni un o feistri’r gamp.

Llun: BBC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.