Merch o Brydain aeth ar goll ar ôl ymosodiad Hamas wedi ei llofruddio meddai'r teulu
Mae teulu merch o Brydain oedd ar goll ar ôl ymosodiad Hamas ar Israel yn dweud eu bod nhw bellach wedi cael gwybod ei bod hi wedi ei llofruddio.
Cafodd ei chwaer 13 oed a’i mam hefyd eu lladd yn yr ymosodiad.
Diflannodd Noiya Sharabi (ar y dde uchod) yn ystod ymosodiad Hamas ar Kibbutz Be'eri ar 7 Hydref.
Roedden Hamas wedi lladd ei mam Lianne, a chafodd marwolaeth ei chwaer Yahel ei gadarnhau'r wythnos diwethaf.
Mae tad y merched, Eli, yn dal ar goll, ac mae perthnasau eraill wedi cael eu herwgipio yn ogystal.
Wrth roi teyrnged iddi dywedodd ei theulu bod Noiya Sharabi yn ferch “glyfar, yn sensitif, yn hwyl ac yn llawn bywyd - roedd ei gwên yn goleuo'r ystafell”.
Hyd yn hyd mae wedi ei gadarnhau bod o leiaf deg o bobol o Brydain wedi marw yn yr ymosodiad ac mae chwech arall ar goll.