Newyddion S4C

‘Fi wedi rhoi cymaint i’r GIG': Pam fod nifer o ddoctoriaid Cymru yn symud i Awstralia?

‘Fi wedi rhoi cymaint i’r GIG': Pam fod nifer o ddoctoriaid Cymru yn symud i Awstralia?

Mae cadeirydd yr undeb sy'n cynrychioli meddygon yng Nghymru wedi dweud bod safon y GIG yn "annerbyniol" a bod ganddi "bob cydymdeimlad" gyda meddygon sydd eisiau symud i weithio dramor.

Mewn cyfweliad gyda Dot Davies ar gyfer rhaglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar, dywedodd Cadeirydd Cyngor Cymru y BMA Dr Iona Collins ei fod yn dod yn anoddach i feddygon gyfiawnhau i'w hunain pam eu bod nhw'n gweithio dan amodau mor wael yn y gwasanaeth iechyd.

Mewn cais rhyddid gwybodaeth i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, cafodd ei ddatgelu bod 729 o ddoctoriaid wedi gadael y GIG yng Nghymru yn y pum mlynedd ddiwethaf, a bod bron i 25% (179) o’r rheiny wedi nodi bydden nhw’n symud dramor. 

Un sydd wedi penderfynu parhau â’i broffesiwn dramor yn Awstralia yw’r meddyg teulu, Dr Lloyd Evans, sy’n wreiddiol o Fro Morgannwg.

Fe wnaeth e dreulio saith mlynedd fel meddyg yng Nghymru, cyn symud â’i deulu i Perth yng Ngorllewin Awstralia, ac mae wedi bod yna ers dros ddwy flynedd a hanner. 

Er mwyn gwneud cais am swydd dramor, mae’n rhaid i weithwyr iechyd gael ‘Tystysgrif o Statws Da’ gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Nid yw gwneud cais am un o’r tystysgrifau hyn yn golygu bod meddyg yn bendant wedi gadael y DU, ond mae’n dangos bwriad i weithio dramor yn y dyfodol.

Dros y 10 mlynedd ddiwethaf, mae bron i 600 o feddygon yng Nghymru wedi derbyn y dystysgrif, ac Awstralia yw’r lleoliad mwyaf poblogaidd i’w ddewis.

Image
Y Byd ar Bedwar

Dywedodd Dr Evans: “I weithio fel meddyg teulu yng Nghymru, mi oedd hi’n anodd. Mi o’n i wastad yn teimlo fel bod dim digon o amser i ddelio gyda’r niferoedd o broblemau oedd gan y cleifion. 

“Yn aml, roedd y cleifion yn aros weithiau am fis i drïo cal apwyntiad ac wedyn, pan maen nhw’n dod mewn - ry’ch chi yna am 10 munud yn trïo delio gyda phopeth ac mi oedd hi’n anodd. 

“Mi oedd hi’n anodd i drïo rhoi’r gwasanaeth yna i’r claf o dan amodau o’dd yn teimlo’n wael i ddweud y gwir.”

Mae Dr Lloyd Evans yn dweud bod gwell amodau gwaith, cyflogau uwch a gwell ansawdd bywyd yn Awstralia hefyd yn atyniad mawr.

“Flwyddyn ddiwethaf, ro’n i bron ag ennill teirgwaith beth ro’n i’n gallu ennill fel meddyg teulu yn y DU," meddai.

"Rwyt ti’n gweld yr hysbysebion ar-lein, gweld y pamffledi am yr haul, y traeth a Gorllewin Awstralia-  dyw hi ddim yn siomi… mae gen i blant 16 oed, 7oed, a nawr un pedair mis. Am le i fagu teulu.

“Ry’ch chi’n gweithio o dan amodau ry’ch chi moyn gweithio ynddyn nhw, gyda mwy o amser gyda’r cleifion, sydd wir yn gwerthfawrogi y gwasanaeth ry’ch chi’n rhoi.”

Image
Teulu Lloyd Evans

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Cymru y BMA, Dr Iona Collins: “Mae’n dod yn anoddach cyfiawnhau i ni ein hunain a’n teuluoedd pam ddylem ni barhau i bron â cham-drin ein hunain i barhau i weithio yn y GIG pan fod hi i mewn cyflwr mor wael.

“Mae’n dod yn llai a llai deniadol i barhau i weithio yn y GIG, ac mewn gwirionedd mae’n niweidio iechyd y rhai sy’n gweithio yn y system gofal iechyd ei hun.

“Mae safon y gwasanaeth iechyd nawr yn annerbyniol, mae hwnna’n glir i bawb sy’n defnyddio’r gwasanaeth iechyd. Dydy hi ddim digon cyflym er mwyn darparu’r gwasanaeth yn effeithiol. Ond nid model y gwasanaeth sydd ar fai, ariannu’r gwasanaeth sydd ar fai.”

Pan ofynnwyd iddi beth oedd ei barn am feddygon sy’n symud dramor, dywedodd Dr Collins: “Mae gen i bob cydymdeimlad â meddygon sydd gyda’r gallu i dynnu eu hunain o’r gweithle hwn a gweithio rhywle mwy iach lle gallant ddefnyddio’r sgiliau maen nhw wedi’u dysgu yn fwy effeithiol.” 

Image
Y Byd ar Bedwar

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y gwaith y mae pob meddyg – a’r holl staff gofal iechyd – yn ei wneud bob dydd.

“Mae cadw staff yr un mor bwysig â denu staff newydd. Mae ein Cynllun Gweithredu Gweithlu Cenedlaethol yn nodi camau gweithredu i wella cyfraddau cadw, gan gynnwys gwella lles staff, a buddsoddiad parhaus mewn addysg a hyfforddiant.

“Mae nifer y meddygon, gan gynnwys ymgynghorwyr, sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru wedi cynyddu bob blwyddyn am yr wyth mlynedd ddiwethaf, ac mae gennym ni’r nifer uchaf erioed o feddygon erbyn hyn.

"Ym mis Mawrth eleni, bu cynnydd o 21 y cant mewn meddygon iau o gymharu â mis Mawrth 2020.

“Mae nifer y meddygon teulu yng Nghymru wedi aros yn sefydlog yn ystod y blynyddoedd diwethaf, tra bod nifer y meddygon teulu dan hyfforddiant wedi bod yn cynyddu’n sylweddol.

“Byddwn yn gweithio gyda chyflogwyr ac undebau i ddarparu’r amgylchedd gwaith a’r amodau y mae ein staff GIG yn eu haeddu ac y mae angen iddynt barhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru.”

Gwyliwch y rhaglen Y Byd ar Bedwar am 20:00, 23 Hydref ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.