Dau yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad rhwng gyrrwr beic modur a gyrrwr beic cwad
22/10/2023
Mae dau unigolyn wedi cael eu cludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ger mynydd y Rhigos.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i’r digwyddiad ar Ffordd Rhigos yn Nhreherbert toc cyn 9.45 fore Sul.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng gyrrwr beic modur a gyrrwr beic cwad.
Cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd er mwyn derbyn triniaeth.
Nid oedd eu hanafiadau yn rhai a oedd yn peryglu eu bywydau meddai'r heddlu.