Y Prif Weinidog eisiau adeiladu ffens o amgylch ei dŷ ar ôl protest
Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi cyflwyno cynlluniau i godi ffens o amgylch ei gartref yn dilyn protest.
Mae’n dilyn protest gan Greenpeace ym mis Awst pan ddringodd ymgyrchwyr ar do’r plasty rhestredig gradd II.
Mae Rishi Sunak wedi cyflwyno cais i Gyngor Gogledd Swydd Efrog er mwyn codi “rhwystr syml a chymedrol er mwyn atal pobl rhag mynd i mewn i’r eiddo”.
Bydd y ffens postyn pren a weiren bedair troedfedd o uchder a 165 troedfedd o hyd.
Roedd yr ymgyrchwyr yn protestio yn erbyn cynlluniau Llywodraeth y DU i roi caniatád ar gyfer 100 o drwyddedau newydd ar gyfer tynnu olew a nwy o Fôr y Gogledd.
Cafodd pump o bobl eu harestio gan swyddogion o Heddlu Gogledd Swydd Efrog yn dilyn y brotest.
Roedd Rishi Sunak a'i deulu ar wyliau yng Nghaliffornia ar y pryd.
Mae Downing Street wedi cadarnhau y bydd y Prif Weinidog yn talu am y ffens ei hun.