Dau yn yr ysbyty wedi tân mewn tŷ
22/10/2023
Mae dau berson wedi cael eu cludo i’r ysbyty ar ôl tân mewn tŷ fore Sul yn Sir Ddinbych.
Cafodd tri criw tân eu galw i Stryd Marsh, y Rhyl, am 05:20 ddydd Sul.
Cafodd y cleifion eu trin yn y fan a’r lle gan ddiffoddwyr tân cyn cael eu cludo i’r ysbyty gan barafeddygon.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad i’r tân.