Sïon bod yr heddlu wedi 'canfod corff' ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 'anghywir'
Mae’r heddlu wedi dweud fod adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn honni eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn anghywir.
Daeth yr honiadau ar-lein yn dilyn ymosodiad “difrifol” yn y dref, meddai Heddlu De Cymru.
Cafodd dau ddyn 49 a 54 oed eu harestio yn dilyn ymosodiad mewn twnnel rheilffordd ym Mrynmenyn.
Digwyddodd yr ymosodiad am 21.00 nos Iau ar Ffordd Bryn.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: “Rydym ni'n ymwybodol o honiadau ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n dweud ein bod ni wedi canfod corff. Nid yw hyn yn wir.
“Mae dioddefwr yr ymosodiad yn ddiogel.
“Mae swyddogion yr heddlu wedi bod yn bresennol yn yr ardal ddydd Gwener gan siarad ag unigolion a chynnal ymholiadau ynglŷn â chynnwys CCTV, yn ogystal â gofyn i’r cyhoedd am eu cymorth i adnabod tystion.”
Llun: Google Maps