Newyddion S4C

Syr Bobby Charlton wedi marw yn 86 oed

21/10/2023
Bobby Charlton

Mae Syr Bobby Charlton wedi marw yn 86 oed.

Dywedodd ei deulu ei fod wedi "marw yn heddychlon yn oriau mân fore Sadwrn".

Roedd yn arwr i Manchester United ac yn rhan o dîm Lloegr a enillodd Cwpan y Byd yn 1966.

Yn ystod gyrfa 17 mlynedd o hyd gydag United, enillodd y gynghrair tair gwaith, ac fe enillodd Gwpan Ewropeaidd a Chwpan FA Lloegr.

Fe chwaraewodd 758 o gemau and sgoriodd 249 o goliau.

Fe enillodd 106 o gapiau i Loegr ac fe sgoriodd 49 o goliau rhyngwladol.

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd Gary Neville: "Mae'n ddrwg gen i glywed y newyddion am Syr Bobby Charlton.

"Ef oedd chwaraewr pêl-droed gorau Lloegr a llysgennad gorau Manchester United.

"Roedd yn bencampwr ar ac oddi ar y cae a baratôdd y ffordd i bawb a ddaeth ar ei ôl yn United. Gorffwyswch mewn hedd Syr Bobby."

Rhoddodd Manchester United deyrnged i Charlton gan ddweud mai ef oedd "un o'r chwaraewyr gorau ac mwyaf annwyl yn hanes ein clwb".

“Roedd Syr Bobby yn arwr i filiynau, nid yn unig ym Manceinion, na’r Deyrnas Unedig, ond o amgylch y byd,” meddai’r clwb.

“Roedd yn cael ei edmygu cymaint am ei gymeriad ag yr oedd am ei rinweddau anhygoel fel pêl-droediwr.

"Bydd Syr Bobby yn cael ei gofio fel un o gewri’r gêm am byth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.