Rhaglen yn adrodd hanes Windrush 'o'r ongl Gymreig'
A hithau’n fis Hanes Pobl Ddu, mae'r rhaglen 'Windrush: Rhwng Dau Fyd', yn holi rhai o ddisgynyddion cenhedlaeth Windrush ac eraill am sut yw hi i fyw yng Nghymru heddiw.
Emily Pemberton sydd yn cyflwyno'r rhaglen ar S4C, ac fe gafodd ei geni a’i magu yn ardal Trelluest neu Grangetown yng Nghaerdydd.
Mae ei Nain a'i Thaid yn rhan o genhedlaeth Windrush a’r ddau wedi mudo o wledydd yn y Caribi a chwrdd a magu teulu yn y brifddinas.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Emily bod cyflwyno'r rhaglen wedi rhoi cyfle iddi gynrychioli sawl cenhedlaeth a diwylliant sy'n bwysig iddi hi.
"Fi’n teimlo fel fy mod i’n cynrychioli lot o bobl – cenhedlaeth fy Nain a Taid, fi hefyd yn crynrychioli teulu fi, pobl ddu, pobl ifanc, pobl o Gaerdydd.
“Ond fi'n credu bod en bwysig gweld rhywbeth o safbwnyt y person sy’n siarad amdano fe.
“Doeddwn i ddim eisiau iddo fod yn rhy hanesyddol drwm – fi sy’n cyflwyno fe a o’n i moyn neud e o safbwynt person ifanc sydd â phrofiadau hollol wahanol i Nain a Taid fi.”
HMT Empire Windrush
Mae hi’n 75 mlynedd ers i gwch yr HMT Empire Windrush lanio yn Lloegr gyda dros 400 o bobol arni oedd am ddechrau bywyd newydd ym Mhrydain.
Dyma sbardunodd Emily i ddatblygu rhaglen ar y genedlaeth Winsrush ond “o’r ongl Gymreig.”
“Ma wastod ffocws ar Lundain neu Ango-centric ond mae gyda ni cymunedau enfawr o bobl o’r Caribi nath gyrraedd yn y 50au a 60au a dydyn ni ddim wedi trafod e o’r safbwynt Cymraeg," meddai.
“Ni’n trio dod a’r hanes yma o safbwynt Cymraeg ond hefyd o safbwynt person ifanc, mewn modd anffurfiol.
“Dydyn ni ddim jyst yn trafod yr hanes ond ma fe’n agor y drws i gymaint o bethau arall – hunainiaeth, Cymreictod, bod yn gyfforddus yn ti dy hun, siaradwyr Cymraeg.
“Daeth lot o bethau allan o’r un cnewyllyn hanes y Windrush yng Nghymru."
Mae’r rhaglen yn trafod amryw o themau gyda sawl cyfrannwr gwahanol yn rhannu eu profiadau nhw o hunaniaeth, anghyfiawnder a’r teimlad o berthyn.
“Fi yn credu bod pobl yn gallu uniaethu gyda rhywbeth os oes ongl bersonol a hefyd ma’ nhw’n gallu gwerthfawrogi fe fel hanes Cymraeg," meddai Emily.
“Yr ongl bersonol nath neud fi bach yn amheus i ddechrau gyda.
“Does neb rili eisiau rhoi bywyd neu teulu nhw ar gamera, ti moyn jys trafod pethau sy’n bwysig i ti,” meddai.
'Cysondeb'
Ond i Emily, yr her fwyaf tra’n creu a chyflwyno’r rhaglen hon "oedd lle i fynd efo’r naratif".
"Roedd gyda ni cymaint o syniadau, ac avenues i fynd lawr," meddai.
“O’r themau da fel bod yn falch o bwy wyt ti a’r rhai ddim mor hapus fel hiliaeth ac anghyfiawnder –cadw’r naratif yn gyson oedd yr her fwyaf.
“Y cysondeb yw hanes Cymraeg a phobl ifanc sydd dal yng Nghymru.
“Ond ma lot fawr o bethau eraill yn digwydd wrth drafod fy stori bersonol i, yn ail fy nheulu ac yna yn drydedd themau ehangach gyda’r cyfranwyr."
Wrth greu’r rhaglen, mae Emily yn gobeithio y bydd pobl eraill yn gallu uniaethu gyda’i stori hi a chael pobl i gymryd gafael ar ei “naratifs eu hun.”
Fe fydd Windrush: Rhwng Dau Fyd yn cael ei ddarlledu ar S4C nos Sul am 20:00.