Newyddion S4C

Storm Babet: Llifogydd mewn rhannau o Gymru gydag ysgolion ar gau

20/10/2023

Storm Babet: Llifogydd mewn rhannau o Gymru gydag ysgolion ar gau

Mae llifogydd wedi effeithio ar sawl ardal yng ngogledd a chanolbarth Cymru wrth i Storm Babet ymledu ar draws y wlad.

Mae ffyrdd ac ysgolion wedi eu cau mewn rhai ardaloedd ac mae rhybuddion y gallai lefelau rhai afonydd godi yn uwch.

Nos Wener fe gyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi derbyn nifer o adroddiadau am gerbydau'n sownd oherwydd llifogydd ar ffyrdd rhwng y Drenewydd, Y Trallwng, Llanidloes a Llandinam.

Fe wnaeth Cyngor Powys gadarnhau ddechrau'r prynhawn bod chwe ysgol yn y sir yn cau am weddill y dydd, sef Ysgol Uwchradd Y Trallwng, Ysgol Uwchradd Caereinion, Ysgol Gynradd Gymunedol Tre'r Llai, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng, Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfair Caereinion, ac Ysgol Rhiw Bechan. 

Yn Sir y Fflint mae 44 o ysgolion ar gau o achos y tywydd yno.

Mae rhai ffyrdd yn y Wyddgrug wedi eu rhwystro yn gyfan gwbl gan ddŵr sydd wedi casglu.

Image
Llifogydd yr Wyddgrug
Llifogydd yn Yr Wyddgrug

Mae’r gwasanaethau brys wedi dweud bod ffyrdd yn y Wrecsam, Rhyl a Dinbych hefyd wedi eu heffeithio gan lifogydd.

Mae’r Heddlu a Gwasanaeth Tân y gogledd yn annog gyrwyr i yrru’n ofalus wrth deithio, wrth i dŵr sy’n casglu ar y ffyrdd achosi amodau gyrru heriol:

"Os ydych yn teithio, pwyll pia hi - mae ein swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn cydweithio'n agos hefo partneriaid er mwyn ymateb i galwadau," meddai datganiad gan Heddlu'r Gogledd."

Dywedodd cwmni bws Arriva amser cinio fod holl wasanaethau Sir y Fflint wedi cael eu canslo oherwydd yr amodau, heblaw am wasanaeth cyfyngedig ar daith rhif 11. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd coch difrifol am lifogydd yn Nhref-y-Clawdd, gan ddweud y gallai lefel yr Afon Tefeidiad godi i hyd at 1.9 medr o uchder yn ystod prynhawn ddydd Gwener.

Mae rhybuddion oren wedi eu rhoi ar gyfer sawl ardal, gan gynnwys Wrecsam, Yr Wyddgrug, Rhuthun, Abergele a Llanelwy tua’r gogledd, a’r Drenewydd, Llanidloes, Y Trallwng a Llanfair Caereinion ym Mhowys.

Mae rhybudd melyn am law mewn grym i rannau o Gymru ddydd Gwener wrth i Storm Babet barhau i effeithio ar y DU. 

Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 00:00 ddydd Gwener a 06:00 fore Sadwrn. 

Lluniau: X/@snapshotjo

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.